Skip to content

Y Gronfa Cymunedau Arfordirol

Dolenni perthnasol

Ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yw gwlad sydd â chymunedau cadarn, diogel y bydd pobl am fyw ynddynt, yn awr ac yn y dyfodol.
Sut mae dylunio lleoedd yn helpu i sicrhau datblygu cynaliadwy.

Gall busnesau a grwpiau cymunedol wneud cais am grantiau i adfywio trefi glan môr.

O dan y Gronfa Cymunedau Arfordirol, sy’n werth £1.45 miliwn, mae grantiau ar gael i gyllido prosiectau sy’n gwella’r rhagolygon economaidd i gymunedau arfordirol Cymru. Gallai’r enghreifftiau gynnwys prosiectau i ariannu adfywio drwy weithgareddau twristiaeth neu ddechrau ac ehangu busnesau.

Mae’r Gronfa Cymunedau Arfordirol, a sefydlwyd gan arian Cronfa BIG, cangen o’r Gronfa Loteri Fawr nad yw’n ymwneud â’r loteri, wedi’i datblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Nod y gronfa yw cefnogi’r gwaith o ddatblygu cymunedau arfordirol yn economaidd drwy hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy a swyddi.

Mae grantiau cyfalaf a refeniw sy’n fwy na £50,000 ar gael ar gyfer amrywiaeth eang o sefydliadau a phrosiectau ymgeiswyr.

Rhoddir ystyriaeth i sut mae cynlluniau ar gyfer twf economaidd yn mynd i’r afael ag anghenion a blaenoriaethau lleol, nifer y swyddi a gaiff eu creu a’u cynaliadwyedd hirdymor.

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr ddangos y bydd eu prosiect yn cyfrannu tuag at ganlyniadau rhaglen Cronfa Cymunedau’r Arfordir.

I ddechrau, bydd y Gronfa Cymunedau Arfordirol yn rhedeg am dair blynedd.

Cysylltu

Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 0300 456 4746 neu anfonwch ebost i ccf@bigfund.org.uk

Ewch i: wefan Cronfa BIG (dolen allanol, saesneg yn unig)