Skip to content

Help i ddechrau busnes

Mae ein tîm dechrau busnes yn helpu unigolion ac entrepreneuriaid sydd eisiau dechrau eu busnesau eu hunain.

Os ydych chi eisiau dechrau busnes neu os rydych yn Fenter Bach a Chanolig, gall ein tîm dechrau busnes eich helpu.

Mae gwasanaethau ein tîm dechrau busnes yn helpu busnesau newydd a Mentrau Bach a Chanolig sydd â photensial gwirioneddol i ffynnu ac i dyfu ac mae’n ceisio sicrhau bod diwydiant entreprenaidd Cymru’n mynd o nerth i nerth.

Sut gallwn ni eich helpu

Gall y tîm dechrau busnes eich helpu gyda’r canlynol:

  • Gwneud eich busnes yn realiti
  • Lleoli eich busnes yng Nghymru
  • Helpu unigolion sy’n wynebu rhwystrau i wireddu eu breuddwydion

At bwy alla i droi i gael rhagor o wybodaeth am sefydlu menter gymdeithasol?

I gael gwyobdaeth am yr help sydd ar gael i fentrau cymdeithasol, ewch i wefan Canolfan Gydgysylltiedig Cymru. (Dolen allanol). 

Rwyf newydd raddio ac eisiau dechrau busnes.  At bwy alla i droi?

I gael gwybodaeth fanwl am yr help sydd ar gael i raddedigion, ewch i wefan Syniadau Mawr Cymru. (Dolen allanol).

Mwy o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau, ewch i www.busnes.cymru.gov.uk/dechrau neu ffoniwch yr Uned Gwybodaeth Busnes ar 03000 6 03000.