Skip to content

Gwasanaethau cyhoeddus

Dolenni perthnasol

Mae Rhwydwaith Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn fewnrwyd breifat a diogel ar gyfer y sector cyhoeddus. Mae’n cael ei ddarparu trwy ein rhaglen PSBA.
Mae gwella gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol bwysig i ddyfodol Cymru.
Doctor with high tec computer
Byddwn yn gwneud mwy o wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau'r llywodraeth yn rhai digidol fel eu bod yn haws cael gafael arnynt, a'u bod yn fwy effeithlon a chyfleus.

Mae defnyddwyr heddiw yn disgwyl gallu rhyngweithio â llywodraeth mor hawdd ag y maent yn bancio dros y rhyngrwyd neu’n siopa ar-lein. Gall Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) gynnig modelau newydd ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus ac ar gyfer y ffordd mae dinasyddion yn ymgysylltu â llywodraeth.

O ystyried y gofyniad ar y sector cyhoeddus i leihau costau yn sylweddol, gwella gwasanaethau a chynyddu cynhyrchiant, mae cymhwyso technolegau digidol mewn ffordd arloesol yn ganolog i’r gwaith o ddarparu gwasanaethau fforddiadwy a chynaliadwy.

Rydym yn disgwyl camau gweithredu mwy cydlynol a chydweithredol ar draws y maes TGCh yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i sbarduno cynnydd sylweddol mewn effeithlonrwydd a chyflymu gwell mynediad i wasanaethau i ddinasyddion a busnesau. Caiff hyn ei gyflawni trwy ganolbwyntio ar bedair thema sy’n gorgyffwrdd:

  • “Prynu’n Well”;
  • “Defnyddio’n Gallach”;
  • “Gweithio gyda’n Gilydd”;
  • “Gweithio’n Wahanol”

Astudiaeth Achos

Gwyliwch y fideo are chwyth y tudalen hon am esiampl o amcan hon