Skip to content

Seilwaith

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ei bod yn bwysig i fusnesau a dinasyddion ledled Cymru allu defnyddio dulliau fforddiadwy a diogel o delathrebu.
Mae’r Cynllun Cymorth Band Eang yn cynnig arian i brynu ffordd arall o gysylltu â band eang pan nad yw cwmnïau telegyfathrebu’n gallu cynnig gwasanaeth.
Global internet broadband data
Rydyn ni eisiau sefydlu Seilwaith Digidol ar radd flaenaf.

Er mwyn bod yn genedl wirioneddol ddigidol sy’n elwa ar fanteision economaidd a chymdeithasol eang, mae’n gwbl hanfodol cael seilwaith digidol hyblyg sy’n gallu cystadlu’n fyd-eang.

Mae Cymru Ddigidol yn seiliedig ar seilwaith cyfathrebu pwerus a hyblyg sy’n edrych tua’r dyfodol ac yn darparu mynediad fforddiadwy i bawb i’r  gwasanaethau sydd eu hangen ar ddinasyddion a busnesau gyda gwasanaethau a chyfleusterau gwerth ychwanegol o safon fyd-eang fel cyfleusterau cyfrifiadura cwmwl a chyfrifiadura perfformiad uchel.

Amlygir hyn gan ein hymrwymiad i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at Band Eang Cenhedlaeth Nesaf (o leiaf 30mbps) erbyn 2015.

Astudiaeth Achos

Gwyliwch y fideo are chwyth y tudalen hon am esiampl o amcan hon.