Skip to content

Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru

Dolenni perthnasol

Ein gweledigaeth ar gyfer gwyddoniaeth, y camau pwysicaf y byddwn am eu cymryd a sut y byddwn yn mesur llwyddiant.
Rydym yn cefnogi buddsoddiad o dan arweiniad diwydiant mewn 9 sector allweddol.
Arloesi yw un o’n dulliau allweddol ar gyfer sicrhau twf economaidd a chreu swyddi.

Mae’r Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar amrywiol faterion ar draws yr adrannau.

Swyddogaeth y Prif Gynghorydd Gwyddonol

  • Arwain y gwaith gwyddonol o fewn Llywodraeth Cymru.
  • Darparu rôl o roi cyngor gwyddonol ac o herio gwyddoniaeth i'r Prif Weinidog a'r Cabinet a Llywodraeth Cymru. 
  • Hybu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, (y pynciau STEM). 
  • Cysylltu â'r gymuned wyddonol yn ehangach.
  • Cyfuno busnesau, Llywodraeth Cymru a phrifysgolion er lles pawb ac ehangu ein heconomi.  
  • Gweithio gyda'r Prif Gynghorydd Gwyddonol a Phrif Gynghorwyr Gwyddonol Adrannau Llywodraeth Prydain. 
  • Gweithredu fel Pennaeth y Proffesiwn i staff gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru ac yn benodol i Lywodraeth Cymru.
Yr Athro John Harries oedd Prif Gynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru o 1 Mai 2010 nes iddo ymddeol ym mis Ebrill 2013. Yn ystod ei dymor yn y swydd, cyhoeddwyd ‘Gwyddoniaeth i Gymru’, ac mae’r gwaith o gyflawni’r argymhellion hynny yn parhau wrth i gynghorydd newydd gael ei benodi.