Skip to content

Polisi Seilwaith Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Dolenni perthnasol

Mae’r Cynllun Cymorth Band Eang yn cynnig arian i brynu ffordd arall o gysylltu â band eang pan nad yw cwmnïau telegyfathrebu’n gallu cynnig gwasanaeth.
Mae Cymru Ddigidol yn amlinellu dyfodol digidol disgleiriach i bawb yng Nghymru.
Casgliad o ddelweddau lliwgar bach yn erbyn cefndir glas golau.
Ein dymuniad yw gweld Cymru â'r band eang gorau yn Ewrop erbyn 2015.

Rydym yn bwriadu sicrhau bod pobl a busnesau ledled Cymru yn cael y band eang gorau yn Ewrop drwy'r dulliau canlynol:

Band Eang Cenhedlaeth Gyntaf

Rydym yn gweithio er mwyn sicrhau bod unigolion, busnesau a chymunedau sydd wedi'u lleoli mewn mannau gwan ar gyfer derbyn band eang, yn gallu cael gafael ar y gwasanaeth band eang sydd ei angen arnynt, a hynny'n gyflym.

Mae ein Cynllun Cefnogi Band eang yn rhoi cymorth ariannol sydd werth hyd at £1,000 er mwyn helpu unigolion, cymunedau, Busnesau bach a Chanolig a sefydliadau'r 3ydd Sector i gael cysylltiad band eang.

Band Eang y Genhedlaeth Nesaf

Fel rhan o waith Rhaglen Lywodraethu, ein nod yw ceisio sicrhau bod pob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru yn gallu cael Band Eang y Genhedlaeth Nesaf erbyn 2015, gyda’r uchelgais o gyflymder o 100Mbps i 50 y cant neu fwy ohonynt.

Cymru Ddigidol

Mae darparu seilwaith digidol o'r radd flaenaf yn un o nodweddion allweddol fframwaith strategol Cyflawni Cymru Ddigidol, sydd â'r nod o greu Cymru sy'n gwbl ddigidol.

Gwasanaeth ffonau symudol

Rydym yn gweithio gyda'r diwydiant ffonau symudol, Ofcom a Llywodraeth y DU i wella'r gwasanaeth ffonau symudol ledled Cymru. Un rhan allweddol o'r gwaith hwn yw sicrhau bod y bylchau mewn darlledu sydd ar gael o ganlyniad i drosglwyddo i ddigidol (o deledu darlledu analog i deledu darlledu digidol) yn cael eu defnyddio i wella ffonau symudol a gwasanaethau band eang ar gyfer ffonau symudol ledled Cymru.

Sut mae cael rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau anfonwch neges e-bost at Bandeang@cymru.gsi.gov.uk.