Skip to content

Band eang

Dau yn siariad
Rydyn ni'n buddsoddi mewn seilwaith Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a band eang ar gyfer cymunedau a busnesau ledled Cymru i roi cymorth i’n hamcanion o ran cynhwysiant economaidd a digidol.

Prif gorff y testun- Rydyn ni'n gweithio gyda chymunedau, busnesau a chyflenwyr TGCh i gynnig atebion gwerth am arian fel y gall busnesau a dinasyddion Cymru ymgysylltu â'r oes ddigidol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma am ein mentrau band eang, beth i’w wneud os na allwch gael band eang neu os oes gennych wasanaeth band eang ond eich bod am allu cysylltu â’r we yn gynt.

Cynllun Cymorth Band Eang

Os yw cyflymder lawrlwytho band eang eich rhyngrwyd yn arafach na 2 Megabit yr eiliad, gallwch hawlio hyd at £1,000 i dalu costau cychwynnol prynu band eang cyflymach.  Ewch i’r tudalennau ar y Cynllun Cymorth Band Eang i gael rhagor o wybodaeth.

Sut rydw i'n gwybod os ydw i'n byw mewn man gwan band eang?

Os nad oes band eang gennych chi'n barod neu os ydych chi'n cael cyflymder lawrlwytho o lai na 512Kbps, rydych chi mewn man gwan band eang. Cofrestrwch drwy glicio ar y botwm isod.

Cofrestru man gwan band eang

Sut rydw i'n gwybod os ydw i'n byw mewn man araf band eang?

Os yw eich cysylltiad band eang i lawrlwytho yn gyson dros 512Kbps ond yn llai na 2Mbps, cofrestrwch gyda ni drwy glicio ar y botwm isod.

Cofrestru man araf band eang

Drwy gofrestru gyda ni, byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth hon i helpu i baratoi mentrau band eang y dyfodol gyda Llywodraeth y DU.  Bydd hyn yn sicrhau bod gan bawb yn y DU fynediad i isafswm cyflymder cysylltiad o 2Mbps, sef yr Ymrwymiad Gwasanaethau Cyffredinol.