Skip to content

Amdano'r pwnc hwn

Ein gweledigaeth yw economi gref sy’n galluogi busnesau i greu swyddi a thwf economaidd parhaus.

Cyfrifoldebau

Yr hyn sy’n dylanwadu fwyaf ar economi Cymru yn y tymor byr a’r hirdymor yw cyflwr yr economi fyd-eang a’r polisi ariannol a chyllidol a amlinellir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.  Nid problemau i Lywodraeth Cymru yn unig yw’r rhain a bydd angen i’r gymuned fusnes, ein partneriaethau cymdeithasol a chyrff gweithredu eraill gydweithio.

Nodau ac ymrwymiadau

Ein prif flaenoriaethau yw’r economi a swyddi.  Ymysg pethau eraill, yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn seilwaith, arloesi a gwella’r amgylchedd busnes.  Dyma rai o’r ffyrdd y byddwn yn gwneud hyn:

  • Er mwyn i gwmnïau a busnesau ffynnu a thyfu, adeiladu ar y berthynas sydd gan Lywodraeth Cymru gyda’r gymuned fusnes a’n partneriaid cymdeithasol a chreu fframwaith ac amodau hyblyg.
  • Cynorthwyo cwmnïau o ansawdd sy’n perfformio’n dda ym mhob rhan o’r economi all greu swyddi, cyfoeth a Chymru gynaliadwy.
  • Byddwn yn disgwyl i unrhyw fusnes sy’n gofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys trwy gontractau caffael cyhoeddus,  ymrwymo i’n hegwyddorion ar gyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol ac i ddatblygu cynaliadwy, hyfforddi ac arferion cyflogaeth da.
  • Datblygu cysylltiadau strategol, buddiol a chryf gyda chwmnïau angori pwysig a’u gwneud yn ganolog i economi Cymru trwy ddatblygu cysylltiadau agos gyda’n sefydliadau addysg bellach ac uwch a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae’r gadwyn gyflenwi yn eu cynnig.
  • Adolygu pa gymorth entrepreneuriadd sydd ei angen ar gwmnïau bach sydd â photensial gwirioneddol i ffynnu ac i dyfu a sut mae sefydlu diwylliant entrepreneuraidd yng Nghymru.
  • Sicrhau bod cyngor busnes priodol a chadarn ar gael i’r sector cydweithredol a chydfuddiannol a bydd y sawl fydd yn cymryd yr arweiniad Gweinidogol yn aelod o Adran yr Economi.
  • Erbyn 2015, sicrhau y bydd gan bob busnes ac eiddo preswyl yng Nghymru Fand Eang y Genhedlaeth nesaf a bydd gan 50 y cant o’r defnyddwyr gyflymdra band eang o hyd at 100Mps.

Strwythur

James Price yw gwas sifil arweiniol yr Adran. Lleolir y staff mewn swyddfa ganolog yn Nhrefforest ac mewn lleoliadau eraill ar draws Cymru gan gynnwys Llandudno ac Abertawe.