Skip to content

Y Cynllun Cyhoeddi

Dolenni perthnasol

Cynhaliwyd yr astudiaeth er mwyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru goblygiadau creu mynegai o ddeddfwriaeth Offerynnau Anstatudol rhwng 1999 a 2005 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Adran 19 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gael Cynllun Cyhoeddi.

Mae Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol Llywodraeth Cymru Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cymryd lle rhifyn 2002 o’n cynllun.  Mae’r Cynllun Cyhoeddi’n amlinellu’r wybodaeth yr ydym yn ymrwymo ein hunain i’w ddarparu i chi.  

Diben y Cynllun Cyhoeddi yw amlinellu’r canlynol:

  • pa wybodaeth y bwriadwn ei chyhoeddi fel mater o drefn arferol;
  • sut y cyhoeddir y wybodaeth hon; ac
  • a yw'r wybodaeth ar gael yn ddi-dâl, ynteu a godir tâl amdani.

Gallech chi weld y Cynllun ar wefan Comisiynydd Gwybodaeth (cyswllt allanol)

Dylech gyfeirio unrhyw geisiadau am gopïau caled neu ddolenni i gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru at y Ganolfan Cyswllt Cyntaf fel y dangosir isod.  Os nad oes gennych chi’r manylion llawn o’r hyn sydd ei angen arnoch, cysylltwch â’r Ganolfan i gael cymorth.

Dyma fanylion cyswllt y Ganolfan Cyswllt Cyntaf:

Y Ganolfan Cyswllt Cyntaf,
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Mae croeso i chi alw i mewn i’r Ganolfan.  Cysylltwch â’r Ganolfan Cyswllt Cyntaf cyn ymweld.  Yr oriau agor yw 8.30 am – 5.00 pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Rhif ffôn:  029 2082 3683
E-bost:  wag-en@mailuk.custhelp.com