Skip to content

Ganolfan Cyswllt Cyntaf

Dolenni perthnasol

Y bwriad bob amser yw eich helpu i ddefnyddio gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru a chael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Caiff un copi o bob dogfen y mae'r Llywodraeth Cymru yn ei chyhoeddi mewn print ei anfon i bob llyfrgell.

Mae'r Ganolfan Cyswllt Cyntaf yn un o wasanaethau Llywodraeth Cymru lle gall y cyhoedd gael gafael ar unrhyw ddogfen a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae aelodau'r cyhoedd yn gallu gwneud trefniadau gyda'r Ganolfan i weld y dogfennau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru sydd yn cael eu cadw yn y Llyfrgell. Gallwch gysylltu gyda ni dros y ffôn, drwy'r ffacs, llythyr neu e-bost. Gallwch hefyd weld y rhan fwyaf o gyhoeddiadau mwyaf diweddar Llywodraeth Cymru yn y 40 llyfrgell ledled Cymru sydd â'r Cyswllt Gwybodaeth.

Byddwn yn fwy na pharod i'ch helpu gydag unrhyw ymholiad sy'n ymwneud â chyhoeddiadau Llywodraeth Cymru. Ein nod yw ateb ymholiadau syml yn ystod oriau swyddfa ar yr un diwrnod. Cewch ateb i ymholiadau mwy cymhleth o fewn 15 diwrnod fel rheol.

Os hoffech gysylltu â ni, dyma'r manylion:

Y Ganolfan Cyswllt Cyntaf
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffon: 029 2082 3683
Ffacs: 029 2082 5239
E-bost: wag-cy@mailuk.custhelp.com

Oriau agor

Dydd Llun-Dydd Gwener, 9:00-17:00.