Skip to content

NAFWC 16/2005 Paratoi cynlluniau strategol addysg atodol 2005-2006

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Yn y Cylchlythyr hwn mae canllawiau i awdurdodau addyg lleol (AALlau) eu dilyn wrth baratoi Cynlluniau Strategol Addysg Atodol (CSAA) ar gyfer 2005-06. Mae angen y cynlluniau hyn yn sgil y penderfyniad i ychwanegu blwyddyn at oes y CSA presennol (oedd yn wreiddiol ar gyfer 2002-05). Y rheswm am hyn yw bod cynlluniau ar y gweill i'w gwneud yn ofynnol i baratoi un cynllun addysg o 2006ymlaen, o dan ddarpariaethau Deddf Plant 2004.

22/04/2005

Mae'r gofynion ar gyfer CSAA 2005-06 yr un peth ag ar gyfer 2004-05 gyda dau eithriad:

  • Mae targedau CA2 a CA3 i'w seilio ar asesiadau athrawon yng ngoleuni'r bwriad i ddiddymu'r profion;
  • Wrth baratoi ar gyfer y bwriad i symud i gynllunio mwy integredig gofynnir i AALlau gynnwys un dudalen yn egluro pa gysylltiad sydd gan eu CSA cyfredol â chynlluniau eraill yr Awdurdod ar gyfer gwasanaethau plant.

Fel yn achos CSAA'au blaenorol, mae angen i Weinidog y Cynulliad dros Addysg a Dysgu Gydol Oes gymeradwyo'r datganiad o gynigion mewn CSAA ar gyfer codi safonau addysg a gwella perfformiad ysgolion.

Mae paragraffau 8-15 o'r Cylchlythyr yn rhoi canllawiau ar y materion sydd i'w cwmpasu yn y datganiad o gynigion.

Ym mharagraffau 16-17 mae canllawiau ar y deunydd ategol y mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu cynnwys mewn Atodiadau i'r Cynllun.

Mae paragraffau 19-23 yn sôn am wybodaeth ychwanegol am faterion y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn ei chael o ddefnydd, er nad yw'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau yn ei darparu.

Ym mharagraffau 24-27 mae trefniadau ar gyfer cyflwyno, cymeradwyo a chyhoeddi'r cynlluniau.

Rhaid anfon y cynlluniau at Lywodraeth Cynulliad Cymru erbyn 30 Ebrill 2005 fel y gellir eu cymeradwyo mewn da bryd cyn dechrau blwyddyn ysgol 2005-06.