Cwestiynau’n ymwneud â Datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang
Mae Datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn thema allweddol yn y fframwaith ABCh, ac mae hefyd wedi’i gynnwys o fewn i’r cwricwlwm ysgol yng Nghymru.
Pa gymorth sydd ar gael i ysgolion mewn perthynas ag addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang (ADCDF)?
Lansiwyd canllawiau o’r enw ‘Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang: Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer Ysgolion’ ym mis Hydref 2008, sy’n egluro’r saith thema allweddol sy’n perthyn i ADCDF.
Mae Rhwydwaith Ysgolion ADCDF, rhaglen ar gyfer ysgolion, yn darparu cymorth yn rhanbarthol.
I weld atebion i gwestiynau cyffredin am y thema Datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, cliciwch ar yr opsiwn Cwestiynau cyffredin.
Os hoffech chi ofyn cwestiwn, anfonwch e-bost i:
Personalandsocialeducationenquiries@wales.gsi.gov.uk.
Byddwn ni’n anfon ymateb i chi a bydd yr ateb i’ch cwestiwn yn ymddangos hefyd yn yr adran Cwestiynau cyffredin.
