Cyfleoedd eraill
Mae ABCh yn cynnwys popeth y mae ysgol neu goleg yn ei wneud i helpu a hybu datblygiad personol a chymdeithasol a lles eu dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys yr holl gyfleoedd cynlluniedig sy’n rhan o ethos a bywyd cymunedol yr ysgol neu’r coleg.
Mae’r awgrymiadau canlynol wedi ennill eu plwyf fel profiadau dysgu sy’n hybu datblygiad personol a chymdeithasol a lles dysgwyr.
- Cymryd rhan mewn ymgyrchoedd Masnach Deg.
- Sefydlu cysylltiadau rhyngwladol â sefydliadau dysgu mewn gwledydd sy’n datblygu.
- Cymryd rhan mewn cynlluniau gwobrau sy’n hybu gwaith partneriaeth â rhieni a’r gymuned ehangach ynghylch cynaliadwyedd a materion dinasyddiaeth fyd-eang, e.e. Eco-Ysgolion, Gwobrau Ysgolion Masnach Deg.
- Drwy brosiect Llwybrau Diogelwch i’r Ysgol, gweithio gyda Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd i annog mwy o bobl ifanc i feicio i’r ysgol. Dysgwch ragor yn Llwybrau Diogel i'r Ysgol (cysylltiad allanol)
- Cymryd rhan yn Fforwm Ieuenctid Cymru ar Ddatblygu Cynaliadwy sy’n rhoi llais i bobl ifanc ar faterion datblygu cynaliadwy yng Nghymru ac yn fyd-eang. Dysgwch ragor yn Fforwm Ieuenctid Cymru ar Ddatblygu Cynaliadwy (cysylltiad allanol)
- Gwahodd amrywiaeth o sefydliadau sy’n hybu dinasyddiaeth fyd-eang i roi cyflwyniadau am eu gwaith mewn gwasanaethau.
Dolenni perthnasol
Mae’r prosiect hwn yn cyfrannu at themâu Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes, Dinasyddiaeth weithgar a Datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.
