Skip to content

Datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang

Dysgwyr yn casglu sbwriel ar yr iard chwaraeMae angen i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau, gwybodaeth, agweddau a’r gwerthoedd i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn unigol ac ar y cyd ar lefel leol a byd-eang, a fydd yn gwella ansawdd bywyd yn y presennol heb niweidio’r blaned ar gyfer y dyfodol. Mae angen eu helpu i ddeall y grymoedd byd-eang sy’n dylanwadu ar eu bywydau, ac mae angen eu helpu i gaffael y gallu i herio anghyfiawnder ac anghydraddoldeb a fydd yn eu galluogi i hyrwyddo byd mwy cynaliadwy a theg.

Mae addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn golygu dysgu am y cysylltiadau rhwng y gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd a dysgu am y cysylltiadau rhwng ein bywydau ni ein hunain a bywydau pobl ar draws y byd; dysgu am anghenion a hawliau cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol; dysgu am y cydberthnasau rhwng grym, adnoddau a hawliau dynol; a dysgu am oblygiadau lleol a byd-eang gweithgareddau dynol a’r camau gweithredu y gall unigolion a mudiadau eu cymryd i ymateb i faterion lleol a byd-eang. Bydd cysyniadau fel defnyddio ynni, newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth ac effaith tlodi byd-eang yn dod yn fyw, yn cael eu deall, eu gweithredu arnynt a’u dangos drwy weithredoedd y dysgwyr yn yr ysgol neu’r coleg a thrwy eu bywydau yn y gymuned ehangach.

Polisïau, rheoliadau a dogfennau cyfarwyddyd cysylltiedig gan Lywodraeth Cymru

Dolenni perthnasol

Fframwaith ABCh yw’r ddogfen allweddol wrth gynllunio ABCh eang a chytbwys.