Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
Gellir helpu’r dysgwyr i wella’u dysgu a’u perfformiad a datblygu eu potensial a’u galluoedd ym maes dysgu gydol oes.
Mae’r prif gyd-destunau sy’n gysylltiedig â’r thema hon yn ymwneud â pharatoi’r dysgwyr ar gyfer dewisiadau ym maes addysg a bywyd. Mae hynny’n cynnwys datblygu sgiliau rheoli personol a sgiliau ymarferol sylfaenol sy’n angenrheidiol ar gyfer bywyd o ddydd i ddydd. Mae angen cymorth ar y dysgwyr i ddatblygu sgiliau dysgu effeithiol a dealltwriaeth o’u prosesau dysgu eu hunain. Mae angen cymorth arnynt i ddatblygu sgiliau hunanddadansoddi, myfyrio ynghylch cynnydd, nodi cryfderau a gwendidau, a phennu targedau ar gyfer gwella. Mae angen cymell y dysgwyr i feithrin brwdfrydedd ac ymrwymiad mewn perthynas â dysgu gydol oes.
Mae angen i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o rôl a phwysigrwydd arian hefyd. Mae angen cymorth arnynt i ddeall eu rôl a’u cyfrifoldebau fel defnyddwyr, a chymorth i feithrin gallu ariannol a fydd yn eu galluogi i ffurfio barn effeithiol a gwneud penderfyniadau effeithiol mewn perthynas â materion economaidd. Mae angen i ddysgwyr wybod y gwahaniaeth rhwng gwaith gyda thâl a gwaith heb dâl, a chydnabod pwysigrwydd caffael y sgiliau newydd hynny sy’n hanfodol mewn byd gwaith sy’n gystadleuol ac sy’n newid yn gyflym.
Mae cysylltiadau clir rhwng y thema hon a’r fframwaith ar gyfer Gyrfaoedd a’r byd gwaith (LlCC 2008), ac mae gan y thema a’r fframwaith athroniaeth gyffredin.
