Datblygiad moesol ac ysbrydol
Gellir helpu’r dysgwyr i ddatblygu cod personol o foesoldeb ynghyd â’r sgiliau gwneud penderfyniadau sy’n angenrheidiol i ffurfio barn foesol resymegol a chyfrifol. Gellir eu helpu i ymestyn eu dealltwriaeth o faterion personol ac i fyfyrio ynghylch eu profiadau a rhai o gwestiynau a materion dwysach bywyd.
Gall ethos yr ysgol ddarparu amgylchedd sefydlog a threfnus lle gellir hybu gwerthoedd megis parch, gonestrwydd, tegwch a chyfrifoldeb. Dylid annog y dysgwyr i fyfyrio ynghylch eu credoau a’u gwerthoedd personol a chymhwyso’r rheiny i’w profiadau eu hunain. Gellir eu hysbrydoli hefyd i fynegi eu teimladau mewnol gan ddefnyddio dychymyg a chreadigrwydd. Gellir ennyn profiadau o’r fath drwy ymdeimlad o ryfeddod a mawredd tuag at y byd naturiol, drwy ddirgelion bywyd a marwolaeth, drwy gyfyngiadau dealltwriaeth ddynol neu drwy ymateb i fod dwyfol.
