Iechyd a lles emosiynol
Gellir helpu’r dysgwyr i gynnal eu hiechyd a’u lles emosiynol a chorfforol, cynnal eu twf a’u datblygiad, a gwybod sut i’w diogelu eu hunain. Wrth i blant a phobl ifanc ddatblygu’n rhywiol, mae angen iddynt ddeall newidiadau corfforol, rheoli teimladau rhywiol a mwynhau cydberthnasau diogel, cyfrifol a hapus. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.
Mae datblygiad corfforol dysgwyr yn dibynnu ar faethiad addas, digon o ymarfer corff, hylendid priodol, diogelwch a dewisiadau iach cadarnhaol. Mae sicrhau eu bod yn meithrin yr wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i wneud dewisiadau gwybodus ym mhob un o’r meysydd hyn yn ganolog i’r broses. Ynghyd â deall dewisiadau iechyd da, dylai’r dysgwyr fod yn ymwybodol o’r peryglon posibl sy’n codi wrth ddefnyddio a chamddefnyddio sylweddau cyfreithlon ac anghyfreithlon.
Cydberthnasau personol sy’n rhai cyfrifol, priodol ac iach yw’r cyd-destun ar gyfer archwilio’r agweddau niferus sy’n perthyn i rywioldeb. Mae angen gosod addysg rhyw a pherthnasoedd mewn fframwaith clir o werthoedd ac ymwybyddiaeth o’r gyfraith ar ymddygiad rhywiol. Mae’n ofynnol cyflwyno agweddau megis bywyd teuluol yn ei holl ffurfiau amrywiol, gan gynnwys priodas, ymddygiadau rhywiol, ystyriaethau sy’n ymwneud â bod yn rhieni. Materion sensitif megis erthyliad mewn modd cytbwys, ac mae’n ofynnol trafod materion moesegol mewn modd gwrthrychol. Fodd bynnag, mae paratoi’r dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad yn eu cydberthnasau personol a sicrhau eu bod yn dysgu sut i adnabod ymddygiad amhriodol llawn mor bwysig hefyd. Dylai’r dysgwyr wybod ble a sut y mae cael gafael ar gymorth a gwybodaeth bersonol.
Mae ‘deallusrwydd emosiynol’ yn golygu rheoli teimladau ac emosiynau yn llwyddiannus, ac mae’n cael effaith sylweddol ar effeithiolrwydd personol a chymdeithasol. Mae hunan-dyb yn effeithio ar hyder ac uchelgais dysgwyr a’u gallu i ddelio â bywyd yn gyffredinol. Mae deall a rheoli emosiynau yn gwella iechyd meddwl trwy gynyddu gallu dysgwyr i ymdopi â gwrthdaro, straen, colled a newid.
