Cyfleoedd eraill
Mae ABCh yn cynnwys popeth y mae ysgol neu goleg yn ei wneud i helpu a hybu datblygiad personol a chymdeithasol a lles eu dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys yr holl gyfleoedd cynlluniedig sy’n rhan o ethos a bywyd cymunedol yr ysgol neu’r coleg.
Mae’r awgrymiadau canlynol wedi ennill eu plwyf fel profiadau dysgu sy’n hybu datblygiad personol a chymdeithasol a lles dysgwyr.
- Cynnwys y dysgwyr mewn prosesau ymgynghori a phenderfynu drwy gynghorau ysgol, blwyddyn a dosbarth, pwyllgorau Eco-ysgol, grwpiau gweithredu ar dybaco etc.
- Cynnwys y dysgwyr yn y Corff Llywodraethu fel myfyrwyr-lywodraethwyr cyswllt mewn ysgolion uwchradd. Dysgwch ragor yn Cynghorau Ysgol Cymru (cysylltiad allanol)
- Dadleuon, digwyddiadau Senedd Ieuenctid Ewrop a chynadleddau ar batrwm y Cenhedloedd Unedig.
- Integreiddio Rhaglen Graidd Cydgysylltu Cymru Gyfan (yr Heddlu) yn y ddarpariaeth sydd wedi’i chynllunio ar gyfer ABCh.
- Sefydlu rhaglenni addysg cyfoedion, e.e. cael myfyrwyr hŷn i fod yn fentoriaid i gefnogi cynlluniau gwella darllen gyda dysgwyr iau.
- Gweithgareddau i godi arian i elusennau o dan arweiniad ieuenctid, lle bydd y dysgwyr yn cynllunio, yn gwneud penderfyniadau, ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb.
- Teithiau addysgol, megis ymweld â Chanolfan Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd.
- Mae Wythnos Democratiaeth Leol, bob mis Hydref, yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn digwyddiadau dinasyddiaeth weithredol. Dysgwch ragor yn Wythnos Democratiaeth Leol (cysylltiad allanol)
- Mae prosiect Ffug Etholiadau Y Vote yn anelu at ennyn diddordeb dysgwyr yn y broses etholiadol yn y cyfnod cyn etholiadau lleol a chyffredinol. Bydd y bobl ifanc yn dysgu am faterion gwleidyddol, cymdeithasol a moesol drwy sefyll fel ymgeiswyr dros bleidiau, ysgrifenwyr areithiau a chanfaswyr mewn etholiad ffug. Dysgwch ragor yn Ffug Etholiadau Y Vote (cysylltiad allanol)
- Defnyddiwch adnoddau’r Comisiwn Etholiadol i godi ymwybyddiaeth o’r broses ddemocrataidd. Dysgwch ragor yn y Do Politics Centre (cysylltiad allanol)
- Ymchwilio i gyfleoedd posibl i gymryd rhan yn y gymuned ac mewn gweithgareddau gwirfoddoli fel:
- helpu i ddatblygu a chynnal gwefan yr ysgol neu’r coleg
- rhoi cymorth ar gyfer ymweliadau pontio gan ddysgwyr Blwyddyn 6
- gweithio gyda dysgwyr eraill i gynllunio ac arwain prosiectau cymunedol
- helpu gyda gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol.
Dolenni perthnasol
Astudiaethau achos sy’n enghreifftio arferion effeithiol wrth roi’r deilliannau dysgu Sgiliau ac Ystod a nodwyd yn y fframwaith ABCh ar waith.
