Cwestiynau’n ymwneud â Dinasyddiaeth weithgar
- Mae’r thema Dinasyddiaeth weithgar yn rhoi mwy o bwyslais ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, er enghraifft:
- Beth yw’r sefyllfa o safbwynt Dinasyddiaeth yng Nghymru?
- A yw hawliau dynol yn cael eu hybu yn y fframwaith ABCh?
- Sut y mae ABCh yn hybu cydlyniant cymunedol?
Mae’r thema Dinasyddiaeth weithgar yn rhoi mwy o bwyslais ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, er enghraifft:
- Hawliau plant a phobl ifanc
- Y broses o gynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau
- Cyfranogiad.
Beth yw’r sefyllfa o safbwynt Dinasyddiaeth yng Nghymru?
Yng Nghymru, mae’r dull gweithredu a fabwysiadwyd yn canolbwyntio ar ddatblygu dinasyddiaeth weithgar yn elfen annatod o ABCh yn hytrach nag yn bwnc ar wahân yn y cwricwlwm cenedlaethol. Mae’r fframwaith ABCh yn dangos yn glir sut y dylai dinasyddiaeth weithgar gael ei chynnwys yng nghwricwlwm ac ethos unrhyw ysgol, ac mae’n rhoi pwyslais ar alluogi dysgwyr i arfer eu hawliau a thyfu’n ddinasyddion gweithgar cyfrifol.
A yw hawliau dynol yn cael eu hybu yn y fframwaith ABCh?
Ydyn - mae addysg ynghylch hawliau dynol yn rhan amlwg o’r thema Dinasyddiaeth weithgar sy’n cynnwys cyfeiriadau cryfach at hawliau dynol, Datganiad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Er mwyn hybu dealltwriaeth ymarferol bellach o Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu bod cynghorau ysgol a gaiff eu hethol yn ddemocrataidd yn ofyniad statudol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru.
Sut y mae ABCh yn hybu cydlyniant cymunedol?
Er mwyn hybu gwaith ar gydlyniant cymunedol, mae un nod allweddol wedi’i ychwanegu at y fframwaith ABCh, sy’n annog ysgolion i hyrwyddo hunan-barch, parch at eraill ac amrywiaeth. Mae annog pobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb personol am eu gweithredoedd a chymryd rhan yn eu cymunedau’n llinyn sy’n rhedeg trwy’r fframwaith ABCh cyfan.
I weld atebion i gwestiynau cyffredin am y thema Dinasyddiaeth weithgar, cliciwch ar yr opsiwn Cwestiynau cyffredin.
Os hoffech chi ofyn cwestiwn, anfonwch e-bost i:
Personalandsocialeducationenquiries@wales.gsi.gov.uk
Byddwn ni’n anfon ymateb i chi a bydd yr ateb i’ch cwestiwn yn ymddangos hefyd yn yr adran Cwestiynau cyffredin.
