Skip to content

Dinasyddiaeth weithgar

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Dinasyddiaeth weithgar

Cyfarfod cyngor ysgol uwchraddGellir helpu’r dysgwyr i fwynhau cydberthnasau llwyddiannus o fewn eu teuluoedd a’u grwpiau o gyfeillion, a gellir eu hannog i fod yn ddinasyddion gweithgar yn eu cymunedau, yn lleol ac yn fyd-eang. Dylent ddatblygu dealltwriaeth ymarferol o’u hawliau a’r cysylltiadau rhwng penderfyniadau gwleidyddol a’u bywydau eu hunain.

Mae cydberthnasau llwyddiannus yn gofyn am sgiliau rhyngbersonol cymwys a pharodrwydd i werthfawrogi eraill a pharchu gwahaniaeth. Mae cydberthnasau da yn deillio o ofal a chefnogaeth, cyfathrebu a pharodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb. Mae angen i’r dysgwyr allu ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, delio â gwrthdaro, herio stereoteipiau a rhagfarn, ac ymdopi â dylanwad cyfoedion a phobl eraill. Ar lefel fwy cyffredinol, bydd byd gwaith a chyflogaeth yn gofyn am allu i gydweithredu a gweithio fel tîm.

Mae’r dysgwyr yn aelodau o gymunedau, sy’n amrywio o rai lleol i rai cenedlaethol a byd-eang, a gellir eu helpu i chwarae rhan ystyrlon a gweithgar yn y cymunedau hynny. Mae nifer o ystyriaethau’n perthyn i ddinasyddiaeth weithgar o’r fath. Mae angen cael dealltwriaeth o natur cymunedau yng Nghymru a thu hwnt ynghyd â dealltwriaeth o’r swyddogaethau, y cydberthnasau, y gwrthdaro a’r anghydraddoldebau sy’n effeithio ar ansawdd bywyd. Dylai’r dysgwyr archwilio’u hawliau mewn cymdeithas ddemocrataidd, a ategir gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae hawl ganddynt gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, a chynllunio ac adolygu unrhyw weithredoedd a allai effeithio arnynt. Hefyd, dylai’r dysgwyr ystyried eu cyfrifoldebau fel dinasyddion ifanc a’u paratoi i gymryd rhan ym mywyd eu cymuned trwy gyfrwng gwasanaeth a chamau gweithredu sy’n hybu lles y gymuned honno.

Yn olaf, mae angen i ddysgwyr ddatblygu ‘llythrennedd’ gwleidyddol sy’n eu galluogi i wneud penderfyniadau effeithiol a ffurfio barn effeithiol ym maes systemau gwleidyddol a chyfreithiol.

Bydd y deg hawl i bobl ifanc a nodir yn ‘Ymestyn Hawliau’ (LlCC 2002) yn gwneud cyfraniadau pwysig i waith ar y thema hon.

Polisïau, rheoliadau a dogfennau cyfarwyddyd cysylltiedig gan Lywodraeth Cymru

Dolenni perthnasol

Diffiniad Llywodraeth Cymru yw ‘bod gen i’r hawl i gael y cyfle i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu unrhyw weithred a all effeithio arna i’.
Mae’r UNCRC yn gytundeb rhyngwladol sy’n nodi hawliau plant a phobl ifanc.
Mae llythrennedd gwleidyddol yn ymwneud â helpu pobl ifanc i ddod yn wleidyddol ymwybodol ac yn wleidyddol effeithiol.