Skip to content

Themâu ABCh

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Themâu ABCh

Mae’r themâu a nodir yn y fframwaith fel a ganlyn:

  • Dinasyddiaeth weithgar
  • Iechyd a lles emosiynol
  • Datblygiad moesol ac ysbrydol
  • Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
  • Datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.

Mae’n bwysig cydnabod nad yw’r themâu hyn yn feysydd datblygu sydd ar wahân i’w gilydd, ond eu bod yn hytrach yn themâu y ceir cyswllt anorfod rhyngddynt.

Caiff y deilliannau dysgu’r cyfnodau allweddol ar gyfer pob thema eu cyflwyno dan y pennawd ‘Ystod’. Yn yr adran ‘Ystod’, ceir manylion am yr agweddau a’r gwerthoedd, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth y dylid eu defnyddio fel cyd-destunau dysgu i ddatblygu sgiliau cysylltiedig ag ABCh.

Dolenni perthnasol

Fframwaith ABCh yw’r ddogfen allweddol wrth gynllunio ABCh eang a chytbwys.