Themâu ABCh
Mae’r themâu a nodir yn y fframwaith fel a ganlyn:
- Dinasyddiaeth weithgar
- Iechyd a lles emosiynol
- Datblygiad moesol ac ysbrydol
- Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
- Datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.
Mae’n bwysig cydnabod nad yw’r themâu hyn yn feysydd datblygu sydd ar wahân i’w gilydd, ond eu bod yn hytrach yn themâu y ceir cyswllt anorfod rhyngddynt.
Caiff y deilliannau dysgu’r cyfnodau allweddol ar gyfer pob thema eu cyflwyno dan y pennawd ‘Ystod’. Yn yr adran ‘Ystod’, ceir manylion am yr agweddau a’r gwerthoedd, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth y dylid eu defnyddio fel cyd-destunau dysgu i ddatblygu sgiliau cysylltiedig ag ABCh.
