Skip to content

Datblygu TGCh

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Datblygu TGCh

Eicon Datblygu TGCh - llygoden gyfrifiadurBydd y dysgwyr yn datblygu eu sgiliau TGCh ar draws y cwricwlwm trwy ddarganfod, datblygu, creu a chyflwyno gwybodaeth a syniadau a thrwy ddefnyddio ystod eang o offer a meddalwedd. Mewn ABCh, byddant yn datblygu eu cymhwysiad pwrpasol o sgiliau TGCh a’u dealltwriaeth o fanteision a pheryglon defnyddio technolegau cyfredol a’r rhai sy’n datblygu. Byddant yn deall pwysigrwydd mabwysiadu arferion diogel a chyfreithiol sy’n lleihau’r peryglon i’w hunain ac i eraill pan fyddant yn defnyddio cyfathrebu digidol, ynghyd â gwerthfawrogi’r angen i barchu eraill.

Dolenni perthnasol

Fframwaith ABCh yw’r ddogfen allweddol wrth gynllunio ABCh eang a chytbwys.
Astudiaethau achos sy’n enghreifftio arferion effeithiol wrth roi’r deilliannau dysgu Sgiliau ac Ystod a nodwyd yn y fframwaith ABCh ar waith.