Sgiliau
O fis Medi 2008 ymlaen, bydd y cwricwlwm yn canolbwyntio’n gliriach ar anghenion dysgwyr a phroses dysgu. Bydd yn rhoi sylw llawnach hefyd i ddatblygu sgiliau a’u rhoi ar waith. Er mwyn helpu’r ysgolion i gyflwyno’r cwricwlwm diwygiedig, mae fframwaith anstatudol wedi’i datblygu, sef Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru. Mae’r fframwaith hwn yn ddiffinio’r amrediad sgiliau y dylai dysgwyr 3 I 19 oed eu datblygu. Mae’n rhoi arweiniad ynghylch parhad a dilyniant wrth ddatblygu meddwl a sgiliau cyfathrebu, rhif a TGCh.
Sgiliau ar draws y cwricwlwm
Yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3, dylid rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr adeiladu ar y sgiliau y maent wedi dechrau eu caffael a’u datblygu yn ystod y Cyfnod Sylfaen. Dylai’r dysgwyr barhau i gaffael, datblygu, ymarfer, cymhwyso a mireinio’r sgiliau hyn trwy dasgau grŵp a thasgau unigol mewn amrywiaeth o gyd-destunau ar draws y cwricwlwm. Gellir gweld cynnydd yn nhermau mireinio’r sgiliau hyn a thrwy eu cymhwyso i dasgau sy’n symud o’r diriaethol i’r haniaethol; syml i’r cymhleth; personol i’r ‘darlun mawr’; cyfarwydd i’r anghyfarwydd; a dibynnol i’r annibynnol a’r cyd-ddibynnol.
Ar gyfer dysgwyr 14–19 oed, dylai’r fframwaith ddarparu’r sail ar gyfer gwneud cynnydd effeithiol yn y sgiliau hyn, y gellir eu hasesu drwy ystod o gymwysterau, gan gynnwys Sgiliau Allweddol.
Sgiliau mewn ABCh
Rhan hanfodol o ddatblygiad personol a chymdeithasol yw meithrin sgiliau personol a chymdeithasol. Gall y rhain gael eu dysgu a’u hymarfer yn yr ystafell dosbarth, a’u rhoi ar waith yn y nifer fawr o gyd-destunau a phrofiadau sy’n cael eu cynnig yng nghymuned ehangach yr ysgol.
Dyma’r sgiliau sydd i’w meithrin drwy gyfrwng ABCh:
- Datblygu meddwl
- Datblygu cyfathrebu
- Datblygu TGCh
- Datblygu rhif
- Gweithio gydag eraill
- Gwella’ch dysgu eich hun.
