Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn gytundeb rhyngwladol a gadarnhawyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Rhagfyr 1991. Mae Llywodraeth Cymru’n gosod buddiannau plant a phobl ifanc wrth galon popeth y mae’n ei wneud, ac mae wedi mabwysiadu saith nod creiddiol i blant a phobl ifanc, bob un wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â’r nodau yn y Confensiwn.
Dyma'r saith amcan craidd:
- cael dechrau da i fywyd a'r sylfaen orau bosibl ar gyfer tyfu a datblygu yn y dyfodol
- cael mynediad at amrywiaeth eang o gyfleoedd addysg, hyfforddiant a dysgu, gan gynnwys y cyfle i feithrin sgiliau personol a chymdeithasol hanfodol
- mwynhau'r iechyd gorau posibl, yn gorfforol, yn feddyliol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol, heb orfod dioddef cael eu cam-drin na'u herlid na chael unrhyw un yn camfanteisio arnynt
- cael y cyfle i chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol
- cael rhywun i wrando arnynt, cael eu trin â pharch, a chael rhyddid i gydnabod eu hil a'u hunaniaeth ddiwylliannol
- cael byw mewn cartref diogel ac mewn cymuned sy'n cefnogi eu lles corfforol ac emosiynol
- osgoi dioddef anfantais oherwydd tlodi plant.
