Skip to content

Llythrennedd gwleidyddol

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Llythrennedd gwleidyddol

Mae llythrennedd gwleidyddol yn ymwneud â helpu pobl ifanc i ddod yn wleidyddol ymwybodol ac yn wleidyddol effeithiol. Mae’n golygu rhoi’r gallu iddynt i ddehongli materion a digwyddiadau yn wleidyddol ac felly mae’n gymysgedd cymhleth o wybodaeth, sgiliau a gwerthoedd.

I bobl ifanc, mae llythrennedd gwleidyddol yn cynnwys:

  • gwybod sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yn y gymdeithas - yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  • bod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o gysyniadau gwleidyddol sylfaenol
  • cydnabod eich hawl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd
  • gwahaniaethu rhwng polisïau’r prif bleidiau gwleidyddol
  • datblygu set bersonol o werthoedd gwleidyddol a chael y sgiliau a’r hyder i’w rhoi ar waith yn ymarferol.

Dolenni perthnasol

Fframwaith ABCh yw’r ddogfen allweddol wrth gynllunio ABCh eang a chytbwys.