Hunanarfarnu mewn ABCh
Dylai darpariaeth ABCh a'i haddysgu gael ei monitro a'i harfarnu'n gyson fel rhan o broses gynllunio hunanarfarnu a datblygu'r ysgol.
Mae hunanarfarnu effeithiol mewn ABCh yn cynnwys ystyried a darparu tystiolaeth ar gyfer y cwestiwn canlynol:
Ydy ein darpariaeth addysg bersonol a chymdeithasol yn effeithiol ac yn cael ei haddysgu'n dda, ac ydy’r dysgwyr yn elwa digon ohoni?
Mae Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion Llywodraeth Cymru yn cynghori ysgolion i seilio eu hadroddiad hunanarfarnu ar Fframwaith Arolygu Cyffredin (FfAC) Estyn.
Mae'r Hunanarfarnu mewn gridiau ABCh yn ceisio adnabod:
- dangosyddion ansawdd FfAC Estyn sydd wedi'u cysylltu agosaf ag ABCh;
- ffynonellau posibl o dystiolaeth ABCh.
Dolenni perthnasol
Mae gwerthuso yn edrych ar y prosesau ar gyfer darparu ABCh ac yn caniatáu i farn gael ei ffurfio am ehangder, cydbwysedd ac ansawdd ABCh.
