Skip to content

Hunanarfarnu mewn ABCh

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Hunanarfarnu mewn ABCh

Dylai darpariaeth ABCh a'i haddysgu gael ei monitro a'i harfarnu'n gyson fel rhan o broses gynllunio hunanarfarnu a datblygu'r ysgol.

Mae hunanarfarnu effeithiol mewn ABCh yn cynnwys ystyried a darparu tystiolaeth ar gyfer y cwestiwn canlynol:

Ydy ein darpariaeth addysg bersonol a chymdeithasol yn effeithiol ac yn cael ei haddysgu'n dda, ac ydy’r dysgwyr yn elwa digon ohoni?

Mae Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion Llywodraeth Cymru yn cynghori ysgolion i seilio eu hadroddiad hunanarfarnu ar Fframwaith Arolygu Cyffredin (FfAC) Estyn.  

Mae'r Hunanarfarnu mewn gridiau ABCh yn ceisio adnabod:

  • dangosyddion ansawdd FfAC Estyn sydd wedi'u cysylltu agosaf ag ABCh;
  • ffynonellau posibl o dystiolaeth ABCh.

Dolenni perthnasol

Mae gwerthuso yn edrych ar y prosesau ar gyfer darparu ABCh ac yn caniatáu i farn gael ei ffurfio am ehangder, cydbwysedd ac ansawdd ABCh.