Templed polisi ABCh
Y ffordd orau i grynhoi agwedd gyfannol at ABCh yn yr ysgol neu’r coleg yw mewn polisi ABCh y cytunir arno. Yn ddelfrydol, dylai holl aelodau cymuned yr ysgol neu’r coleg gael eu cynnwys wrth ddatblygu’r polisi ABCh. Dylai’r polisi ABCh gael ei adolygu a’i ddiweddaru yn rheolaidd yn ôl yr angen.
Er y bydd cynnwys polisi ABCh ysgol neu goleg unigol yn amrywio, mae yna agweddau penodol a ddylai fod yn gyffredin.
Mae templed enghreifftiol ar gyfer polisi ABCh yn cael ei ddarparu er mwyn i’r ysgolion a’r colegau ei addasu i’w ddefnyddio yn eu sefydliadau eu hunain.
