Fframwaith ABCh
Y fframwaith ABCh yw’r sylfaen ar gyfer agwedd gyfannol eang a chytbwys at ABCh sy’n cynnwys ystod o brofiadau i hybu datblygiad personol a chymdeithasol a lles y dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys yr holl brofiadau dysgu a gaiff eu cynllunio a’r holl gyfleoedd eraill sy’n nodweddion o ethos a bywyd cymunedol yr ysgol neu’r coleg.
Ar gyfer pob cyfnod allweddol, mae’r fframwaith ABCh yn nodi:
- sgiliau sy’n gysylltiedig ag ABCh
- themâu ABCh
- yr ystod o ddeilliannau dysgu yn nhermau agweddau, gwerthoedd, gwybodaeth a dealltwriaeth.
- cyfleoedd ar gyfer dilyniant mewn ABCh.
Mae ABCh i ddysgwyr o bob gallu. I blant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol penodol, gall deilliannau dysgu o gyfnodau allweddol blaenorol gael eu defnyddio fel targedau mwy priodol er mwyn helpu unigolion i wneud cynnydd.
Dolenni perthnasol
Y Fframwaith ABCh yw’r ddogfen y dylai’r ysgolion a’r colegau ei defnyddio i ddatblygu darpariaeth ABCh ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru.
Mae’r cylchlythyr hwn yn cynnwys canllawiau a nodiadau atodol ar gyfer awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir, colegau a darparwyr dysgu eraill.
