Offeryn archwilio ABCh ar Gyfnod Allweddol 4
Mae offeryn archwilio ABCh ar Gyfnod Allweddol 4, sydd wedi’i seilio ar y deilliannau dysgu o’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru, ar gael er mwyn i ysgolion gynnal archwiliadau o’r ddarpariaeth gwricwlaidd ac o brofiadau dysgu perthnasol eraill yn y sefydliad. Bydd dadansoddi’r wybodaeth a gesglir yn dod o hyd i’r canlynol:
- y ddarpariaeth ABCh graidd, y gellir gwarantu y caiff ei chyflwyno
- bylchau yn y ddarpariaeth gyfredol.
