Rhestr gyfeirio: Cydnabod cyraeddiadau dysgwyr mewn ABCh
Mae’r rhestr gyfeirio ‘Cydnabod cyraeddiadau dysgwyr mewn ABCh’ yn rhan o gyfres o restrau cyfeirio a all gael eu defnyddio fel rhan o’r gwaith blynyddol i fonitro a chloriannu. Y peth gorau felly yw cwblhau’r rhain yn ystod tymor yr haf. Mae defnyddio ymadroddion ffit orau a blychau ticio yn helpu i leihau’r gwaith cofnodi.
Bwriedir y rhestr gyfeirio hon yn bennaf i’w defnyddio gan yr aelod dynodedig o’r tîm o arweinwyr uwch sy’n gyfrifol yn gyffredinol am reoli darpariaeth ABCh holistig a’r aelod o’r staff sy’n gyfrifol yn benodol am gydlynu’r gwaith i gyflwyno ABCh.
Mae wedi’i dylunio i helpu arweinwyr uwch a chydlynwyr ABCh i wneud y canlynol:
- penderfynu ar flaenoriaethau o ran cryfhau’r ddarpariaeth ABCh
- cynhyrchu tystiolaeth ar gyfer cynllun datblygu ABCh
- cyfrannu at gynllun datblygu’r ysgol-gyfan neu’r coleg cyfan.
Dylid gofyn barn y dysgwyr a’i chymryd i ystyriaeth. Hefyd, dylai’r staff sy’n ymwneud â chyflwyno ABCh gyfrannu at gasglu tystiolaeth. Gall llawer o’r casgliadau gael eu tynnu drwy dafod mewn cyfarfodydd staff/adran. Bydd eraill yn codi o edrych ar samplau o waith dysgwyr a thrwy arsylwi ar wersi fel rhan o arferion monitro arferol yr ysgol.
Mae angen i waith casglu tystiolaeth, yn enwedig arsylwi ar wersi a chraffu ar waith dysgwyr, gael ei gynllunio’n ofalus dros gyfnod o 2-3 wythnos.
