Astudiaethau achos o ysgolion cynradd
Mae’r astudiaethau achos canlynol o ysgolion cynradd yn rhoi enghreifftiau o arferion effeithiol wrth roi’r deilliannau dysgu Sgiliau ac Ystod a nodwyd yn y fframwaith ABCh ar waith. Maent wedi’u seilio ar wybodaeth a gynigiwyd gan nifer o ysgolion ac asiantaethau allanol sy’n helpu i gyflwyno ABCh. Maent yn adlewyrchu sut mae ABCh y cael ei darparu drwy’r cwricwlwm a thrwy ethos a bywyd yr ysgol neu’r coleg.
Mae rhai o’r astudiaethau achos yn dangos arferion effeithiol ar draws mwy nag un thema, gan danlinellu nad yw’r themâu mewn ABCh yn feysydd datblygu ar wahân ond yn hytrach bod cysylltiadau annatod rhyngddynt.
