Cydnabod cyraeddiadau’r dysgwyr
Does dim gofyniad statudol bod rhaid asesu ABCh ar ddiwedd cyfnod allweddol. Er hynny, fe ddylai cynnydd unigolion mewn ABCh ar draws y cwricwlwm a’u cyfraniadau at fywyd cyffredinol yr ysgol neu’r coleg gael eu cydnabod. Mae hyn yn helpu’r dysgwyr i werthfawrogi’r hyn y maent yn ei ddysgu a’r sgiliau y maent yn eu meithrin.
Does dim angen profion ffurfiol er mwyn pwyso a mesur cyraeddiadau’r dysgwyr mewn ABCh. Dylai’r dysgwyr gael cyfleoedd i fyfyrio ar eu profiadau, trafod eu syniadau eu hunain am eu dysgu a’u cynnydd, pwyso a mesur cryfderau a meysydd i’w datblygu a phennu targedau ar gyfer gwella. Dylent gael eu hannog i ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros eu cynnydd a dylai hunanasesu chwarae rhan amlwg.
Mae ABCh yn aml yn flaenoriaeth i ddysgwyr y mae arnyn nhw anghenion addysgol ychwanegol a gall targedau personol a chymdeithasol penodol gael eu pennu mewn cynlluniau addysg unigol. Mae’r targedau hyn yn bwydo’r cynlluniau a’r gwahaniaethu mewn gwaith ABCh ar draws y cwricwlwm a chaiff yr holl staff eu cynnwys wrth gydnabod cyraeddiadau.
