Rôl Estyn
Mae hunanwerthuso yn elfen bwysig o drefniadau Estyn ar gyfer arolygu darpariaeth ABCh. Mae arolygwyr yn gwneud dyfarniadau ac yn cyflwyno adroddiadau ar ansawdd darpariaeth ABCh yn bennaf drwy ddefnyddio pob un o'r tri chwestiwn allweddol. Mae Estyn wedi nodi dangosyddion ansawdd ar gyfer pob cwestiwn allweddol.
Mae'r pwyntiau bwled o dan bob cwestiwn allweddol yn cynnig mannau cychwyn penodol ar gyfer gwerthuso darpariaeth ABCh. Yn amlwg, ni fydd yr holl bwyntiau'n berthnasol ym mhob sefyllfa.
Mae canllawiau hunanwerthuso ar gyfer ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig ar gael ar wefan Estyn yn www.estyn.co.uk.
Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda yw'r deilliannau?
1.1 Safonau
Y graddau y mae dysgwyr yn llwyddo ac yn gwneud cynnydd o ran eu dysgu a'u sgiliau personol a chymdeithasol.
- Drwy arsylwi gwersi ac adolygu'r pwnc/cwrs/adran ceir tystiolaeth o gyflwyniadau a phrofiadau dysgwyr.
- Defnyddir egwyddorion asesu ar gyfer dysgu ac mae'r dysgwyr yn deall y deilliannau.
- Darperir ystod o gyfleoedd i achredu dysgu sy'n gysylltiedig ag ABCh megis Cymhwyster Bagloriaeth Cymru.
1.2 Lles
Mae lles yn cynnwys bwyta'n iach, bod yn weithgar yn gorfforol, iechyd meddwl ac iechyd emosiynol, ymddygiad rhywiol cyfrifol, agwedd ac ymddygiad cyfrifol o ran defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, diogelwch a hylendid personol. Mae holiaduron dysgwyr yn debygol o ddarparu tystiolaeth ychwanegol ddefnyddiol ar gyfer gwerthuso'r dangosydd ansawdd hwn.
Y graddau y mae dysgwyr yn:
- meddu ar ddealltwriaeth dda o bwysigrwydd iechyd a lles
- dangos agwedd gadarnhaol at gadw'n iach a diogel, yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn dangos parch tuag at eraill
- cymryd rhan mewn cyfleoedd i hyrwyddo lles, ac yn eu mwynhau
- cyfrannu at benderfyniadau a gwaith yr ysgol o ran iechyd a lles.
Cwestiwn Allweddol 2: Pa mor dda yw'r ddarpariaeth?
2.1 Profiadau dysgu
Y graddau y mae dysgwyr yn cael ystod o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau a'u dealltwriaeth o ran ABCh, er enghraifft drwy'r canlynol:
- y cwricwlwm
- sesiynau a addysgir yn aml
- gwaith allgyrsiol
- prosiectau yn ymwneud ag ABCh.
2.2 Addysgu
Y graddau y mae tystiolaeth o'r canlynol:
- disgwyliadau uchel ar gyfer ABCh
- y defnydd o amrywiaeth o strategaethau addysgu a dysgu ar gyfer darparu ABCh a'u heffaith.
2.3 Gofal, cymorth ac arweiniad
Y graddau y mae polisïau ac arfer sy'n ymwneud ag ABCh yn:
- galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd o ran eu datblygiad personol, ysbrydol, moesol a diwylliannol
- bodloni gofynion cyfreithiol, e.e. addysg rhyw a chydberthnasau
- sicrhau iechyd, diogelwch a lles pob dysgwr
- hyrwyddo addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang
- cynnig gwybodaeth, cymorth ac arweiniad personol, gan gynnwys cael gafael ar wasanaethau arbenigol
- cyswllt â gwasanaethau bugeiliol/lles.
2.4 Amgylchedd dysgu
Y graddau y mae:
- polisïau ac arfer yn hyrwyddo cydraddoldeb
- adnoddau yn cael eu paru ag anghenion dysgwyr
- yr amgylchedd dysgu yn ysgogol.
Cwestiwn Allweddol 3: Pa mor dda yw'r arweinyddiaeth a'r rheoli?
Yn y cyd-destun hwn, nid yw arweinyddiaeth/rheoli yn ymwneud ag uwch aelodau o staff, yn unig ond mae'n cynnwys arweinyddiaeth/rheoli sydd wedi'i ddosbarthu ar gyfer timau/adrannau.
3.1 Arweinyddiaeth
- Pennu rôl cydlynydd ABCh o fewn y strwythur rheoli cyffredinol.
- Cysylltiadau rheoli llinell effeithiol ag uwch aelodau o staff.
- Cyfrannu at lunio cynlluniau datblygu ABCh.
- Cysylltiadau effeithiol â'r rheini sy'n rhan o'r gwaith o ddarparu ABCh.
- Lefel y cyfraniad gan y corff llywodraethu.
3.2 Gwella ansawdd
- Gwybodaeth am systemau ar gyfer monitro ABCh a gwerthuso effaith y gweithgareddau.
- Ymgynghorir â dysgwyr a chânt eu hannog i rannu eu barn a chodi materion.
- Tystiolaeth o'r gwaith monitro a gwerthuso.
- Newidiadau a wneir yn sgîl y gwaith monitro a gwerthuso.
- Tystiolaeth o welliant a wnaed.
3.3 Gweithio mewn partneriaeth
Y graddau y mae:
- y gymuned ehangach a'r sector gwirfoddol yn rhan o ABCh
- yr arbenigedd allanol a ddefnyddir yn addas ac o safon
- y dysgwyr yn meddu ar dystiolaeth o ddefnyddioldeb cysylltiadau o'r fath.
3.4 Rheoli adnoddau
Pa mor effeithlon yw'r arweinwyr a'r rheolwyr o ran eu defnydd o adnoddau, gan gynnwys:
- addasrwydd staff a sut y'u defnyddir
- addasrwydd yr adnoddau dysgu a'r adeiladau
- tystiolaeth i ddangos bod yr adnoddau wedi'u defnyddio'n effeithlon.
