Cyflwyno
Mae datblygiad personol a chymdeithasol dysgwyr yn cael ei hybu drwy’r cwricwlwm a addysgir a thrwy brofiadau wedi’u cynllunio sy’n nodwedd ar fywyd cyffredinol yr ysgol neu’r coleg. Mae ABCh yn cael ei chyflwyno’n effeithiol mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dylai rhaglen gydlynol o ABCh ddefnyddio’r holl ddulliau canlynol yn effeithlon:
- cyfleoedd ym mhynciau’r cwricwlwm cenedlaethol ac addysg grefyddol
- sesiynau ABCh ar wahân
- gweithgareddau pendant.
Dolenni perthnasol
Mae eicon ABCh yn dynodi’r dysgu sy’n gysylltiedig ag ABCh yn holl bynciau’r cwricwlwm cenedlaethol ac addysg grefyddol.
Bwriedir y rhestr gyfeirio hon ar gyfer rheoli’r ddarpariaeth ABCh yn ymarferol.
Mae’r portread hwn yn rhoi sylw i thema ‘Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes’.
