ABCh gyfannol
Gan fod pob athro/athrawes a darlithydd yn cyfrannu at ABCh, mae cydlynu effeithiol yn hollbwysig.
Mae angen i bob ysgol a choleg benodi aelod o’r staff i ysgwyddo’r cyfrifoldeb cyffredinol dros reoli darpariaeth ABCh gyfannol.
- Yn yr ysgol gynradd, y pennaeth neu aelod o’r tîm o uwch-arweinwyr fydd yn gwneud hyn fel rheol.
- Yn yr ysgol uwchradd ac mewn colegau addysg bellach, bydd hyn yn cael ei wneud fel arfer gan aelod o’r tîm o uwch-arweinwyr.
Yn ychwanegol, dylai’r ysgolion cynradd mwyaf, ysgolion uwchradd a cholegau AB ystyried penodi aelod o’r staff yn unswydd i gydlynu’r gwaith i gyflwyno ABCh.
Dylai ABCh gael ei chynllunio’n ofalus. Bydd archwiliad o’r ddarpariaeth yn y cwricwlwm ac yn yr ysgol gyfan neu’r coleg cyfan yn dod o hyd i’r canlynol:
- y ddarpariaeth ABCh graidd, y gellir gwarantu ei bod yn cael ei chyflwyno
- bylchau yn y ddarpariaeth gyfredol ym mhob cyfnod allweddol.
I sicrhau rhaglen gydlynol sy’n sicrhau dilyniant, mae ar yr ysgolion a’r colegau angen trosolwg ar y cwricwlwm ABCh sy’n cyplysu deilliannau dysgu’r cyfnodau allweddol o’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru â gweithgareddau dysgu priodol.
