Fframwaith
Mae ABCh yn rhan statudol o’r cwricwlwm i ddysgwyr rhwng 5 ac 16 oed yng Nghymru. Cyfrifoldeb yr ysgolion yw cynllunio a chyflwyno ABCh eang, gytbwys i ddiwallu anghenion penodol yr holl ddysgwyr.
Y fframwaith ABCh anstatudol yw’r ddogfen allweddol y dylai’r ysgolion a’r colegau yng Nghymru ei defnyddio i adolygu’r ddarpariaeth ABCh ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed, ei datblygu a’i chynllunio.
Mae’r fframwaith yn:
- adeiladu ar y Maes Dysgu Datblygiad Personol a Chymdeithasol a Lles yn Fframwaith Cyfnod Sylfaen ar gyfer dysgu plant 3 i 7 oed yng Nghymru
- sail ar gyfer cydrannau’r Craidd Dysgu 14-19 sy’n gysylltiedig ag ABCh
- adlewyrchu polisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Polisïau, rheoliadau a dogfennau cyfarwyddyd cysylltiedig gan Lywodraeth Cymru
Dolenni perthnasol
Nod y canllawiau hyn yw cefnogi ysgolion i fanteision i’r eithaf ar ABCh mewn addysg dysgwyr ag anawsterau difrifol/dwys a lluosog.
Mae’r cylchlythyr hwn yn cynnwys canllawiau a nodiadau atodol ar gyfer awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir, colegau a darparwyr dysgu eraill.
