Mae’r Gweinidog, sydd i annerch cyfarfod cenedlaethol y Papurau Bro yn yr Eisteddfod ddydd Llun (6ed Awst), wedi galw ar y Papurau Bro i ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ddod o hyd i gynulleidfaoedd newydd ac i gysylltu â’r genhedlaeth ifanc.
Meddai Leighton Andrews:
“Rydyn ni am i bobl weld bod y Gymraeg yn iaith fodern, fyw. Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid inni wneud yn siŵr bod yr iaith ar gael i bawb ym mhob math o gyfathrebu.”
“Mae’r Papurau Bro yn draddodiad pwysig yng Nghymru, ond wrth i fwy o bobl droi at y dechnoleg newydd am eu newyddion, mae’n hanfodol eu bod yn defnyddio’r dulliau newydd hyn o gyfathrebu.”
“Mae nifer o gyfleoedd ar gael i helpu’r broses o gyhoeddi’r Papurau Bro i symud â’r oes, o’r dylunio a’r cysodi i ddefnyddio Hyperlocal i’w hyrwyddo. Mae llawer iawn o dechnoleg ar gael i’w gwneud yn hygyrch i gynulleidfa ehangach a rhoi lle i leisiau newydd.”
Meddai Bryan James, Is-Cadeirydd Pwyllgor y Dinesydd, Papur Bro Dinas Caerdydd ar Cylch:
“Mae ein cyfarfodydd cenedlaethol yn yr Eisteddfod yn gyfle i rannu syniadau a materion sy’n gysylltiedig â Phapurau Bro a rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed barn y Gweinidog am y cyfryngau newydd a thechnoleg.”
Mae Strategaeth Iaith Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru, Iaith fyw: Iaith Byw, yn rhoi pwysigrwydd mawr ar swyddogaeth technoleg a’r cyfryngau digidol yn nyfodol yr iaith, ac yn gynharach eleni sefydlwyd Grŵp y Gymraeg, Technoleg a'r Cyfryngau Digidol i roi cyngor ar y rhan hwn o’r strategaeth.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae’r ffaith bod cynnwys cyfryngau digidol ac apps nid yn unig yn caniatáu i’r iaith Gymraeg ffynnu, ond hefyd yn galluogi siaradwyr y Gymraeg i gymryd rhan yn llawn fel dinasyddion digidol.”
“Mae’n rhaid inni wneud yn siŵr nad yw’r iaith Gymraeg yn cael ei gadael ar ôl gan y technolegau diweddaraf ac yn hytrach ein bod yn eu defnyddio i ddangos bod yr iaith Gymraeg yn gyfrwng creadigol, pwerus, modern sy’n hawdd ei addasu.”
Bydd y Gweinidog yn trafod manteision y cyfryngau newydd a thechnoleg yng nghyfarfod cenedlaethol y papurau bro ym Mhabell y Cymdeithasau 1, Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012, am 14:00 ddydd Sadwrn 4ydd Awst. Mae croeso i’r cyhoedd ymuno yn y trafod.
Nodiadau
Mae’r Papurau Bro yn rwydwaith o 52 o bapurau newydd cymunedol ledled Cymru, sydd wedi’u cynhyrchu’n bennaf gan wirfoddolwyr, a’u cyhoeddi’n fisol. Maent yn cynnwys newyddion lleol, manylion digwyddiadau, a gwybodaeth am unigolion yn y gymuned, gan gynnwys genedigaethau, marwolaethau a phriodasau.











