Bydd sgrin fawr ar y maes yn dangos Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn fyw drwy gydol wythnos gyfan yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg.
Meddai Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg:
“Rydw i wrth fy modd ein bod ni’n gallu darparu’r cymorth hwn i ddigwyddiad diwylliannol mwyaf Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol. Rydw i’n siŵr y bydd gan bobl lawer o ddiddordeb yng Ngemau Llundain 2012, a nawr bydd y degau o filoedd o bobl sy’n dod i Fro Morgannwg ar gyfer yr Eisteddfod eleni yn gallu dilyn y cyffro i gyd.”
Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru,
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ddarparu sgrîn fawr er mwyn i’n hymwelwyr ni gael mwynhau’r Gemau Olympaidd yn ystod yr Eisteddfod eleni.
"Rydym yn gobeithio y bydd nifer fawr o bobl yn manteisio ar yr adnodd hwn ac yn dod i fwynhau’r Gemau yn awyrgylch arbennig y Brifwyl, yn Llandŵ.”











