Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn cydnabod pwysigrwydd technoleg wrth ddathlu'r Gymraeg yng Nghaerdydd.

Mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd dros y penwythnos, bydd Leighton Andrews, y Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg, yn pwysleisio pwysigrwydd technoleg wrth ddatblygu'r iaith.
Dydd Mawrth 19 Mehefin 2012

Bydd Mr Andrews yn lansio ap newydd Tafwyl yn ystod agoriad yr ŵyl yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn (23 Mehefin). Bydd yr ap hwn yn rhoi gwybodaeth am yr ŵyl cyfrwng Cymraeg a gynhelir dros gyfnod o wythnos yn y brifddinas.

Dywedodd Mr Andrews:

"Heb os, mae angen mwy o gynnwys digidol yn y Gymraeg. Mae'n bwysig iawn bod y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio ar-lein.

"Rydw i am sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu defnyddio'r technolegau newydd a'r cyfryngau digidol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n rhaid i hyn ddigwydd er mwyn i'r iaith ffynnu."

Ffair Tafwyl, a gynhelir yng Nghastell Caerdydd, yw'r digwyddiad cyntaf yn ystod wythnos Tafwyl. Gŵyl flynyddol yw hon a sefydlwyd gan Fenter Caerdydd yn 2006 i ddathlu defnydd y Gymraeg yng Nghaerdydd. Eleni, am y tro cyntaf, cynhelir Tafwyl ochr yn ochr â Gŵyl Caerdydd.

Bydd nifer o stondinau yn y ffair a rheini'n hybu cynnyrch Cymreig. Yn ogystal, cynhelir gweithdai, sesiynau yn seiliedig ar lenyddiaeth, cerddoriaeth, coginio, celf a drama. Ar y prif lwyfan, bydd perfformiadau byw gan artistiaid gwerin, roc a phop ynghyd â sesiynau acwstig, diddanwyr stryd, sesiynau dawns, maes chwaraeon a gweithgareddau i blant o bob oed.

Ar ôl y ffair, cynhelir digwyddiadau mewn lleoliadau amrywiol ar draws y ddinas gan gynnwys y Chapter, y Sherman a'r Amgueddfa Genedlaethol. Byddan nhw'n cynnwys digwyddiadau llenyddol a hanesyddol, gigs, comedi, ffilmiau, chwaraeon, dramâu, digwyddiadau ar gyfer plant oed meithrin a gweithgareddau i ddysgwyr.

Ychwanegodd Mr Andrews:

“Gwelwyd cynnydd aruthrol yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd dros y deng mlynedd diwethaf. Mae'n galonogol gweld y digwyddiad hwn yn dathlu hynny. Rwyf yn hynod o falch i weld bod cymaint o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn perfformio yn ystod Ffair Tafwyl eleni.

Ers ei sefydlu chwe blynedd yn ôl, mae gŵyl Tafwyl wedi datblygu i'r fath raddau fel bod angen lleoliad newydd a mwy o faint ar gyfer y digwyddiad eleni. Mae hyn yn dyst i'w llwyddiant.”

Cynhelir Gŵyl Tafwyl yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn, 23 Mehefin rhwng 12pm ac 8pm. Mae ap Tafwyl ar gael nawr o iTunes neu Google Play.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Tafwyl

Tagiau

Y Gymraeg 19 Mehefin 2012 Yr Iaith Gymraeg Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i