Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Penodiadau i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg

Mae Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, wedi cyhoeddi saith penodiad i Gyngor Partneriaeth newydd y Gymraeg.
Dydd Mercher 02 Mai 2012

Mae Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, wedi cyhoeddi saith penodiad i Gyngor Partneriaeth newydd y Gymraeg. Bydd y penodiadau hyn yn rhedeg o 1 Ebrill 2012 hyd at 31 Mawrth 2015.

Sefydlwyd y Cyngor Partneriaeth o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r Cyngor Partneriaeth yn gyfrifol am roi cyngor a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â strategaeth y Gymraeg Gweinidogion Cymru a fabwysiadwyd o dan adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mewn perthynas â chynlluniau gweithredu blynyddol Gweinidogion Cymru o dan y strategaeth.

Yr aelodau newydd yw: Dr Lowri Angharad Ahronson, Efa Catrin Gruffudd Jones, Owain Siôn Gruffydd, Catherine Baldwin, Sali Burns, Hywel Jones, Dr Rhodri Llwyd Morgan. Y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau fydd Cadeirydd y Cyngor Partneriaeth.

Nid yw aelodau’r Cyngor Partneriaeth yn cael eu talu, ond yn cael eu had-dalu ar gyfer costau teithio a chynhaliaeth resymol. Mae ganddynt ymrwymiad amser o leiaf dri diwrnod y flwyddyn.

Dywedodd Mr Andrews:

“Mae sefydlu Cyngor Partneriaeth newydd y Gymraeg yn enghraifft arall o ymrwymiad y Llywodraeth hon i gefnogi a datblygu’r iaith Gymraeg.  Ym mlwyddyn gyntaf y Cynulliad hwn, rydyn ni wedi cyflwyno newidiadau cyflym ac ystyrlon i agenda y Gymraeg.  

Bydd y penodiadau hyn yn rhoi mwy o syniadau, mwy o gymorth, a heriau newydd i Weinidogion wrth inni ddechrau rhoi Strategaeth newydd y Gymraeg ar waith, ac wrth inni weithredu ein Cynllun Gweithredu ar gyfer 2012-13.”

Er nad yw’r penodiadau hyn yn dod o fewn cylch gorchwyl Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus fe ystyriwyd egwyddorion Nolan wrth wneud y penodiadau.

Mae pob penodiad yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod.

Aelod #1: Dr Lowri Angharad Ahronson – Cyfarwyddwr Cynllun Iaith Gymraeg, Prifysgol Bangor

Aelod #2: Efa Catrin Gruffudd Jones, Prif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru

Aelod #3: Owain Siôn Gruffydd – Prif Weithredwr, Menter Bro Dinefwr a Trywydd

Aelod #4: Catherine Baldwin, Swyddog Iaith Gymraeg, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Aelod #5: Sali Burns, Nyrs Iechyd Meddwl Cofrestredig, Gwasanaethau Seicolegol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr  

Aelod #6: Hywel Jones, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin

Aelod #7: Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol, Cyngor Sir Ceredigion

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Strategaeth y Gymraeg 2012 i 2017 - Iaith fyw: iaith byw Strategaeth y Gymraeg: Cynllun Gweithredu 2012-13

Tagiau

Y Gymraeg 02 Mai 2012 Programme for Government - Culture and Heritage Yr Iaith Gymraeg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2012
Ll M M I G S S
<< Mai   Gor >>
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28 29 30  
I'n dilyn ni trowch i