Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Penodiadau i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg

Heddiw, cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg, aelodau Panel Cynghori cyntaf Comisiynydd y Gymraeg.
Dydd Mawrth 17 Ebrill 2012

Yr aelodau yw: Dr Ian Rees, Mrs Virginia Isaac, Mr Gareth Jones a'r Athro Gwynedd Parry. Bydd eu penodiadau yn rhedeg o 1 Ebrill 2012 i 31 Mawrth 2015. Dr Rees yw Cadeirydd y Panel.

Penodwyd y Panel Cynghori o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Caiff y Comisiynydd ymgynghori â’r Panel mewn perthynas ag arfer ei swyddogaeth.

Dywedodd Leighton Andrews:

"Rwy'n falch iawn bod Dr Rees, Mrs Isaac, Mr Jones a'r Athro Parry wedi cytuno i fod yn aelodau o'r Panel Cynghori. Bydd gan y Panel ran bwysig i'w chwarae o ran darparu cymorth a chyngor i'r Comisiynydd.”

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:

“Cafodd aelodau’r Panel eu penodi yn dilyn proses recriwtio allanol. Nawr rydym mewn sefyllfa lle mae gen i Banel o unigolion diddorol i droi atynt pan fyddaf angen ymgynghori ar unrhyw fater.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Comisiynydd y Gymraeg

Tagiau

Y Gymraeg 17 Ebrill 2012 Yr Iaith Gymraeg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i