Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Diwrnod tyngedfennol yn hanes yr iaith Gymraeg

Mae’r bleidlais heddiw i gymeradwyo’r Mesur Iaith Gymraeg, yn ôl Gweinidogion Cymru, yn ddigwyddiad tyngedfennol yn hanes yr iaith.
Dydd Mawrth 07 Rhagfyr 2010

Mae’r Mesur yn cyflawni tri o ymrwymiadau Cymru’n Un trwy gadarnhau statws swyddogol yr iaith, cydnabod hawliau ieithyddol wrth ddarparu gwasanaethau a sefydlu Comisiynydd Iaith.

Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones:

“Mae’r Gymraeg yn destun balchder i bobl Cymru, p’un a ydynt yn ei siarad neu beidio ac rwy’ wrth fy modd felly bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo’r Mesur.  Rwy’n falch fy mod wedi cael llywio’r ddeddfwriaeth trwy’r Cynulliad sy’n cadarnhau statws swyddogol yr iaith; sy’n creu eiriolydd cryf dros siaradwyr y Gymraeg ac a fydd yn cynyddu’n sylweddol nifer y gwasanaethau fydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae heddiw yn ddiwrnod gwir hanesyddol i’r iaith Gymraeg.

"Dwi’n ddigon lwcus i allu byw y rhan fwyaf o ’mywyd trwy gyfrwng y Gymraeg.  Fel Llywodraeth, rydyn ni’n credu y dylai unrhyw un sydd am fyw bywyd tebyg gael gwneud hynny.  Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gam pwysig at wireddu’r weledigaeth honno.

"Nid ar chwarae bach y gwnaethon ni drosglwyddo’r pwerau dros y Gymraeg i’r Cynulliad Cenedlaethol ac mae’r amser a dreuliwyd yn brawf o hynny.  Fodd bynnag, rwy’n gobeithio bod y gwelliannau a wnaed i’r ddeddfwriaeth wrth greu’r Mesur yn dangos ein bod wedi gwrando’n ofalus ar farn pobl yn ystod y broses graffu ar y Mesur.  Bydd y Mesur yn rhoi’r Gymraeg ar seiliau cadarnach.”

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, bod y Mesur yn gam pwysig a hanesyddol at gryfhau’r Gymraeg.

“Mae dau ddegawd wedi mynd heibio erbyn hyn ers i unrhyw Lywodraeth gyflwyno deddfwriaeth sy’n delio’n unswydd â’r iaith Gymraeg,” meddai.

Er nad yw deddfwriaeth ar ei phen ei hun yn ddigon, mae’r Mesur arfaethedig yn rhoi inni rai o’r arfau sydd eu hangen arnom i sicrhau bod y Gymraeg yn gallu parhau i ffynnu yn yr unfed ganrif ar hugain ochr yn ochr â’r Saesneg.”

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones:

“Ni all ac ni wnaiff y Llywodraeth laesu dwylo ynghylch dyfodol y Gymraeg.  Bydd yna wastad fwy i’w wneud i amddiffyn a hyrwyddo’r trysor hwn sydd mor bwysig i bobl ein gwlad.

"Rydym yn hynod o falch hefyd gyda’r hyn mae’r Llywodraeth hon wedi’i wneud o safbwynt y Gymraeg.  Rydym wedi dangos yn glir ein hymrwymiad i’r iaith trwy gyflwyno Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, cynlluniau ar gyfer Y Coleg Ffederal a’r wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein strategaeth newydd ar gyfer yr iaith.  Bydd hyn, law yn llaw ag ymdrechion pobl Cymru, yn helpu i sicrhau dyfodol cryfach i’r iaith

"Testun calondid imi oedd gweld y diddordeb a’r angerdd y llwyddodd y broses ddeddfwriaethol ei sbarduno a byddwn yn parhau i wrando ar farn pobl a’i hystyried yn ofalus wrth roi’r Mesur hwn ar waith.”

Mae’r Mesur yn:

  • cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg
  • creu system newydd i roi dyletswydd ar gyrff i ddarparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg
  • creu comisiynydd Iaith Gymraeg newydd a chanddo bwerau cryf i orfodi cydymffurfiaeth, er mwyn diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaethau trwy’r Gymraeg
  • sefydlu Tribiwnlys Iaith Gymraeg newydd
  • rhoi’r hawl i unigolion a chyrff i apelio yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg
  • creu cyngor Partneriaeth Iaith Gymraeg newydd i gynghori’r Llywodraeth ar effaith ei pholisïau ar y Gymraeg
  • caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg ymchwilio’n swyddogol i achosion lle gwelir ymgais i amharu ar ryddid unigolion i siarad Cymraeg gyda’i gilydd.
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y Gymraeg

Tagiau

Y Gymraeg 07 Rhagfyr 2010 Yr Iaith Gymraeg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i