Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cynydd yr iaith Gymraeg

Mae’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, heddiw wedi canmol y cynnydd a wnaed tuag at sicrhau dyfodol ffyniannus i’r iaith Gymraeg, gyda chyhoeddi adroddiad ar gynnydd Iaith Pawb a’r Cynllun Iaith Gymraeg
Dydd Llun 12 Gorffennaf 2010

Dywedodd Mr Jones fod y deuddeg mis diwethaf wedi bod yn hynod o bwysig o ran gweithredu Iaith Pawb, strategaeth Llywodraeth y Cynulliad i greu Cymru ddwyieithog, ac ymrwymiadau Cymru’n Un.

“Eleni rydym wedi cyflawni amcan Cymru’n Un trwy gyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer yr Iaith Gymraeg, a chyflwyno Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) arfaethedig, sydd nawr yn cael ei ystyried gan y Cynulliad.

“Bydd y Mesur arfaethedig yn cadarnhau statws swyddogol i’r iaith Gymraeg; yn creu hawliau ieithyddol o safbwynt darparu gwasanaethau ac yn sefydlu swydd Comisiynydd Iaith.

“Mae'r rhain yn gamau pwysig iawn tuag at gyflawni nod y Llywodraeth hon o sicrhau bod yr iaith Cymraeg yn ffynnu.

“Rydym yn cydnabod na all deddfwriaeth yn unig  gyflawni’r nod hon ac mae’r adroddiad hwn yn dangos ein cynnydd mewn nifer o ardaloedd lle rydym yn gweithio i gefnogi’r iaith Gymraeg.”

Yn ogystal â’r gwaith deddfwriaeth, mae adroddiad cynnydd 2009-10 yn cyfeirio at y gwaith o ddatblygu strategaeth Iaith Gymraeg newydd er mwyn adeiladu ar lwyddiannau Iaith Pawb.  

Mae ymrwymiadau eraill allweddol Cymru’n Un hefyd wedi cael eu gweithredu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda gohebiaeth yn y Gymraeg yn cael ei chaniatáu yn swyddogol gan yr Undeb Ewropeaidd am y tro cyntaf, a chyhoeddi Strategaeth Addysg Gyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Fe lansiwyd Golwg 360; gwefan newyddion dyddiol yn yr iaith Cymraeg, ym mis Mai 2009, ac mae nifer y darllenwyr wedi tyfu’n gyson.

O fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru mae gwaith ar y gweill i adolygu’r Cynllun Iaith Cymraeg; y ddogfen sy’n amlinellu sut fydd Llywodraeth y Cynulliad yn darparu gwasanaethau dwyieithog i bobol Cymru.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cyhoeddiadau

Tagiau

Y Gymraeg 12 Gorffennaf 2010 Yr Iaith Gymraeg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i