Mae’r adroddiad yn gosod allan y gwaith a wnaed gan y Llywodraeth a’i bartneriaid er mwyn mewn cyrraedd y nôd o greu Cymru gwir ddwyieithog ble gall pobl fyw eu bywydau drwy’r Gymraeg, Saesneg neu’r ddwy iaith.
Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn diwethaf yn cynnwys:
- Cyhoeddi cynigion ar gyfer Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gyfer y Gymraeg yn Chwefror 2009 er mwyn i’r broses o graffu cyn deddfu cael ei chynnal yn Nhy’r Cyffredin a’r Cynulliad Cenedlaethol.
- Sefydlu panel i ddatblygu Strategaeth Addysg Cyfrwng Gymraeg. Disgwylir i’r strategaeth derfynol gael ei gyhoeddi yn 2010
- Lansio gwefan Golwg 360 ym mis Mai 2009, sy’n derbyn £600,000 o arian cyhoeddus dros dair mlynedd
- Y Gweinidog dros Dreftadaeth yn defnyddio’r Gymraeg am y tro cyntaf mewn cyfarfod o’r Cyngor Ewropeaidd ym mis Tachwedd 2008
- Cyhoeddi ym mis Mai 2008 y byddai gofyn i 57 o gyrff ychwanegol sy’n darparu amryw o wasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru weithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg. Ymhlith y cyrff hyn yr oedd y Post Brenhinol, Banc Lloegr, Ofcom, y Cyngor Prydeinig ac UK Sport.
- Yn ystod gwanwyn 2009, cychwynnodd Llywodraeth y Cynulliad gynllun gwella er mwyn sicrhau datblygu arfer gorau yng nghyswllt cyflawni ein cynllun iaith Gymraeg yn effeithiol.
- Sefydlwyd partneriaeth rhwng Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Chwareon Cymru ac Undeb Rygbi Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd yr iaith Gymraeg i rygbi’r undeb
Meddai’r Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones:
“Rydym ni wedi ein hymrwymo i weithio tuag at y nod o greu Cymru cwbl ddwyieithog. Mae dogfen Cymru’n Un yn dangos ein hymrwymiad fel Llywodraeth i ddatganoli pwerau deddfu ar yr iaith Gymraeg o San Steffan i’r Cynulliad Cenedlaethol ac rydym yn gweithio tuag at gyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol, Mesur a Strategaeth Iaith newydd er mwyn gwneud hynny.
“Wrth i ni ddatblygu’r strategaeth, gallwn fod yn hyderus ein bod yn parhau i adeiladu ar y seiliau cadarn y mae Iaith Pawb wedi rhoi i ni. Gallwn ymfalchïo yn yr hyn sydd eisioes wedi cael ei gyflawni fel y mae Adroddiad Blynyddol Iaith Pawb a’r Cynllun Iaith Gymraeg yn adlewyrchu.”
1 Rhagfyr 2009











