Ar ddiwrnod y ddadl ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol drafft ar yr Iaith Gymraeg yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones wedi ymweld â chanolfan alwadau Nwy Prydain, ble mae’r cwmni yn darparu gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i’w cwsmeriaid o’u gwirfodd.
Meddai’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones:
“Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o’n bywyd yng Nghymru ac o fudd i ni i gyd, p’run bynnag ydyn ni’n ei siarad yr iaith neu beidio. Mae angen gwasanaethau cyson o ansawdd da yn y Gymraeg er mwyn gweld twf yn nefnydd yr iaith.
“Mae’r twf yn y nifer y plant sy’n cael eu haddysgu drwy’r Gymraeg yn galonogol ond er gwaetha’r llwyddiant, parhau mae’r frwydr i gynyddu’r defnydd o’r iaith tu hwnt i giatiau’r ysgol. Rhan o’r ymdrech honno ydy ymrwymiad Cymru’n Un i sefydlu hawliau ieithyddol o safbwynt gwasanaethau.
“Mae’r Gorchymyn drafft yn cydnabod fod gan gyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol rôl bwysig o ran darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru ac yn cydnabod yr angen i wneud pethau’n gliriach.
“Mae aelodau’r cyhoedd yng Nghymru am dderbyn gwasanaethau cyson o ansawdd da yn y Gymraeg a dyna mae Nwy Prydain, ymysg eraill, yn ei wneud.”
3 Tachwedd 2009











