Wrth annerch aelodau Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn eu cynhadledd yn Nghanolfan y Mileniwm, bydd y Gweinidog yn gofyn am gymorth aelodau’r mudiad wrth lunio strategaeth iaith newydd, a fydd yn olynu Iaith Pawb.
Meddai’r Gweinidog:
“Roedd Iaith Pawb yn gam pwysig yn hanes y Gymraeg – y strategaeth genedlaethol gyntaf ar y Gymraeg gan unrhyw lywodraeth. Ond bellach, chwe blynedd a mwy ers ei lansio, mae’r tirlun wedi newid yn sylweddol o ran y Gymraeg.
“Ar y funud rydyn ni’n ceisio am y pŵer i ddeddfu dros y Gymraeg yn y Cynulliad – ond, er mor bwysig yw hynny, dim ond un darn o’r jig-so yw deddfwriaeth.
“Mae’n amserol felly ein bod yn edrych eto ar yr hyn sydd angen ei wneud er mwyn hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Hoffwn estyn gwahoddiad i bawb i ddweud eu dweud ynghylch elfennau eraill sy’n bwysig o ran polisi iaith er mwyn bwydo mewn i’r broses o ddatblygu’r strategaeth newydd.
“Rydw i hefyd yn awyddus i ledaenu’r drafodaeth yma ymhellach, ac felly yr wythnos hon, bydd llythyr ynghyd â chyfres o gwestiynau yn cael ei anfon at nifer o gyrff a mudiadau eraill yng Nghymru yn gofyn am syniadau.”
Bydd yr ymgynghoriad yn cyffwrdd ar ystod eang o faterion gan gynnwys;
- y defnydd o’r Gymraeg yn y teulu
- annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg
- y Gymraeg fel iaith gymunedol
- prif-ffrydio’r Gymraeg fel rhan o waith cyrff cyhoeddus
- hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y sectorau preifat a gwirfoddol
- darllen, gwylio a gwrando yn Gymraeg
- isadeiledd y Gymraeg (gan gynnwys terminoleg, cyfieithu, technoleg ac ymchwil)
- marchanta’r iaith
Bydd cyfle i bobl ‘ddweud eu dweud’ tan ddiwedd mis Ionawr 2010.
13 Hydref 2009











