Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i geisio'r pŵer i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu i gadarnhau statws swyddogol y Gymraeg a'r Saesneg, rhoi hawliau ieithyddol ym maes darparu gwasanaethau a sefydlu'r Comisiynydd Iaith.
Dros yr haf, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i ystyried argymhellion Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 y Cynulliad a'r Pwyllgor Materion Cymreig, yn ogystal â thystiolaeth gan randdeiliaid.
Yn dilyn y trafodaethau hynny, bydd y Gweinidog yn ceisio datblygu Mesur y Cynulliad cyn diwedd tymor y Cynulliad yn 2011 a fydd yn galluogi'r Gweinidogion i gyflawni ymrwymiadau Cymru'n Un ar y Gymraeg.
Yn ystod y trafodaeth yn sgil craffu ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig, mae nifer o feysydd wedi cael eu nodi lle caiff cwmpas y cymhwysedd ei newid, gan gynnwys:
- Manylu bod modd gosod dyletswyddau ar gorff o dan fater 20.1 dim ond lle mae ffordd i'r person hwnnw herio'r dyletswyddau hynny yn y ffordd y maent yn berthnasol i'r corff yn ôl rhesymoldeb a chymesuredd.
- Cynnwys gwasanaethau bysiau yn y cymhwysedd o dan baragraff (h).
- Codi'r trothwy sy'n cynnwys cyrff sy'n derbyn arian cyhoeddus yn y cymhwysedd o dan baragraff (e) i £400,000 er mwyn mynd i'r afael â phryderon bod y trothwy blaenorol yn cynnwys nifer fawr o fudiadau yn y cymhwysedd, gan gynnwys mudiadau bach. Yn unol â bwriad polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru, caiff y Gorchymyn ei newid hefyd i sicrhau na chaiff dyletswyddau eu gosod ar gyrff sy'n derbyn grantiau untro.
- Bydd y Gorchymyn yn cynnwys darpariaeth benodol i sicrhau na cheir gosod dyletswyddau ynghylch y Gymraeg ar ryddid golygyddol darlledwyr. Mae hyn yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ryddid golygyddol.
- Bydd y Gorchymyn yn cynnwys dull gweithredu mwy penodol o ran cynnwys cyrff a sefydlwyd drwy Siarter Brenhinol yn y cymhwysedd. Gwneir hyn drwy gynnwys meini prawf cymhwyso ychwanegol a fydd yn cynnwys y cyrff hynny sy'n darparu gwasanaethau allweddol yn y cymhwysedd.
- Yn unol â bwriad polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru, caiff mater 20.1 ei addasu fel na fydd darparu’r gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig a’r gwasanaethau a restrir ym mharagraff (h) mewn siopau sy’n gwerthu nwyddau yn bennaf yn rhan o’r cymhwysedd o dan baragraff (h), ac eithrio i’r graddau y mae’r gwasanaethau eraill yn cynnwys darparu gwasanaethau cownter y Swyddfa Bost, yn gwerthu tocynnau neu’n darparu amserlenni y gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd.
- Dim ond hyfforddiant a ariennir yn llwyr neu'n rhannol gan arian cyhoeddus a gaiff ei gynnwys yn y cymhwysedd.
- Er mwyn ymateb i'r pryder ynghylch y cyfeiriadau at gynhyrchu a throsglwyddo trydan a nwy, hynny yw y rhannau o'r sector ynni nad ydynt yn ymwneud â'r cyhoedd bron o gwbl, caiff cynhyrchu a throsglwyddo eu dileu o baragraff (h) y Gorchymyn.
Prif argymhelliad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5, mewn perthynas â'r Gymraeg, oedd y dylid "trosglwyddo cwmpas eang o bŵer deddfwriaethol i'r Cynulliad”. Er hynny, mae hefyd yn wir mai polisi Llywodraeth y DU yw nad oes modd i un Gorchymyn roi cymhwysedd deddfwriaethol i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn maes cyfan yn Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru ac mae’r Gweinidog Treftadaeth yn fodlon bod y cwmpas a gytunwyd yn ddigonol i gyflawni bwriad y polisi yng nghytundeb yn Cymru’n Un.
Meddai Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth:
"Mae proses y Gorchymyn wedi bod yn gyfle i gael trafodaeth helaeth ar rôl deddfwriaeth o ran diogelu a hyrwyddo'r Gymraeg. Rwy'n falch, yn ystod y broses hon, bod consensws clir wedi dod i'r amlwg ymysg yr holl bleidiau yng Nghymru bod bellach angen diweddaru'r fframwaith deddfwriaethol presennol."
"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn falch bod y ddau bwyllgor yn cydnabod mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r lle priodol i ddeddfu ar y Gymraeg. Rydym hefyd yn falch bod y ddau bwyllgor yn cydnabod rôl bwysig ystod eang o gyrff cyhoeddus o ran darparu gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd yng Nghymru, a rôl allweddol technolegau sy'n prysur ddatblygu, fel gwasanaethau telathrebu, o ran hyrwyddo a hwyluso defnydd o'r iaith, yn enwedig ymysg pobl ifanc."
Bydd yr Uwch-bwyllgor Cymreig yn trafod Gorchymyn arfaethedig y Gymraeg ar 14 Hydref. Ar ôl cwblhau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, caiff y Gorchymyn drafft ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
6 Hydref 2009











