Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Blwyddyn Newydd, Iaith Newydd, Sgil Newydd

Dyma’r amser o’r flwyddyn mae pobl ar hyd a lled Cymru yn gwneud addunedau Blwyddyn Newydd. Felly, beth am wneud adduned i ddysgu Cymraeg trwy gynllun llwyddiannus iawn Llywodraeth y Cynulliad ar ddysgu Cymraeg i Oedolion, ‘We’ll bring out the Cymraeg in you’ .
Dydd Mercher 09 Ionawr 2008

Mae cyfres o hysbysebion Cymraeg i Oedolion, a gaiff eu darlledu tan 14 Ionawr 2008, yn tynnu sylw at y manteision niferus a ddaw o ddysgu Cymraeg.  Mae enwogion fel Colin Charvis, Derek Brockway a Simon Weston, sy’n dysgu Cymraeg trwy Big Welsh Challenge y BBC, yn hybu’r ymgyrch fwyaf erioed i annog oedolion i feistroli’r iaith.

Mae cyrsiau Cymraeg i Oedolion, sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cael eu cyflwyno mewn chwe chanolfan bwrpasol newydd, yn unol ag ymrwymiad Iaith Pawb (2003) sef Strategaeth Dwyieithrwydd i Gymru Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Addysg:  

Fel dysgwr fy hunan, rwy’n gwybod beth yw’r manteision a’r gwir deimlad o gyflawni a ddaw yn sgil dysgu Cymraeg.  Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg i wneud hynny fel adduned Blwyddyn Newydd a chysylltu â’u canolfan Cymraeg i Oedolion leol i gael mwy o wybodaeth.

Am rhagor o wybodaeth, ewch i www.cymraegioedolion.org .

9 Ionawr 2008  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y Gymraeg Addysg a sgiliau

Tagiau

Y Gymraeg 09 Ionawr 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i